Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-28

Ar y ffordd yn ôl o Lundain

Wedi dwy noson yn 'ein' prifddinas dwi'n teimlo ei bod hi'n hen bryd imi ddychwelyd i Gymru fach. Mae'r trefniadau wedi mynd yn iawn hyd yn hyn, felly dwi'n gobeithio yr aill pethau cystal ar y ffordd 'nôl.

Dwi wedi tynnu nifer o luniau o'r peth hyn a'r peth arall welais i ar fy nhaith. Ond dwi'n falch o ddweud nad wyf wedi gwario fel peth dwl. Dim ond pythefnos sydd i fynd hyd at y gwyliau yng Ngwlad Belg, a dwi am fedru mwynhau'r gwyliau hynny i'r eithaf.

Bues i'n siarad gyda DML ac RO ar y ffôn neithiwr ynglŷn ag angladd Gwynfor Evans. O'r hyn yr oedd ganddyn nhw i'w ddweud mae'n amlwg fy mod wedi bod yn absennol ar ddiwrnod mawr. Mae'n amlwg fod Gwynfor Evans wedi bod yn ddylanwad mawr ar cymaint o bobol. Dau beth mawr sy'n aros yn fy meddwl i amdano. Yn gyntaf y wefr o ddarllwyn Aros mae ar ôl derbyn copi fel gwobr mewn arholiad ysgol Sul pan yn 13 mlwydd oed. Yn ail oedd bod yn bresennol yn y cyfarfod bythgofiadwy hwnnw yng Nghrymych pan oedd Gwynfor yn annerch yn dilyn penderfyniad y llywodraeth i sefydlu'r hyn sy'n cael ei galw bellach yn S4C.

Mae cymaint mwy y gallwn ei ddwweud, ond fe wnaf fodloni ar y ddau beth hynny am nawr. Dwi'n siŵr o ddod 'nôl i'r pwnc eto.