Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-31

Y daith i Fflandrys - Dydd Sul (27)

Gadael Brwsel

Gorsaf Brussel CentraalY Manneken-pis oedd y peth olaf ar ein llwybr twristiaid cyn troi yn ôl am Brussel Centraal a'r trên i Kortijk. Arweiniodd DC yn ôl i'r orsaf ar hyd strydoedd culion yr hen ddinas, ac yna heibio i gofebau Gabrielle Petit, ac Albert I, tuag at Centraal. Wrth fynd heibio cofeb Albert I cefais gipolwg o Lyfrgell Genedlaethol Gwlad Belg, Koninklijke Bibliotheek van België, ond doedd dim amser i wneud dim ond ceredded heibio. Roedd wedi bod yn ddiwrnod a hanner, wedi gweld cymaint, wedi gwneud cymaint, ac eto doedd hi ddim cweit yn chwech o'r gloch - roedd ein trên yn ymadael am 17.37 ac yn cyrraedd Kortrijk o fewn yr awr. Roedd trenau Gwlad Belg n gweithi'n hynod o effeithiol. Roedden nhw'n lân i ddechrau ac roedd digon o le ynddyn nhw, ac roedden nhw ar amser!

Yn ôl i Rollegem

Fy swper i 2005-05-15Roedd y trên ar amser yn cyrraedd gorsaf Kortrij, ac o fewn dim roedden ni'n ôl yn Rollegem, diolch i yrru gofalus RO. Roedd pryd blasus o fwyd yn ein disgwyl ni unwaith eto - cig oen y tro hwn i'r tri arall, a hwyaden i fi. Fe gawsom ni gawl merllys i gychwyn gyda darnau o eog wedi'i fygu ynddo. Wedyn amser i ymlacio ac edrych 'nôl ar ddigwyddiadau'r dydd ac i drefnu beth fydden ni'n ei wneud yfory, ein diwrnod olaf yn Fflandrys. Roeddwn i wrth gwrs am sicrhau ein bod yn ymweld â'r ffin ieithyddol a'r IJsertoren yn Diksmuide, ac roedd DML am glywed canu'r corn olaf wrth y Menenpoort yn Ieper.

Rhagor o luniau o orsaf Brussel Centraal.

Yr holl luniau o bedwerydd diwrnod y gwyliau.