Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-31

Y daith i Fflandrys - dydd Sul (26)

Manneken Pis

DML, DC, Dr HW a RO ger Manneken-pis, BrwselCyn ymadael â Brwsel a holl ogogniant pensaernïo a diwylliannol, mae 'na un peth ar ôl i'w wneud, sef mynd i weld bachgen bach yn pisio. Na, peidiwch â phoeni fy mod yn berfert, y bachgen bach yw'r Manneken Pis, ac mae 'na gannoedd yn gwneud yr union yr un fath â mi. Dafliad carreg o'r Grote Markt, saif y cerflun enwog o'r o bachgen bach yn pisio. Does neb yn rhy siŵr o'i hanes, ond mae wedi cael llawer iawn o sylw dros y blynyddoedd. Roedd rhyw fath o ddelw yno o'r canol oesoedd ymlaen, ac mae'n debyg fod fersiwn gwreiddiol y cerflun presennol wedi'i lunio gan y cerfluynydd Jerôme Duquesnoy ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg - ond ei fod wedi'i ddwyn nifer o weithiau dros y blynyddoedd gan orfodi'r awdurdodau i greu fersiwn newydd. Mae'r bachgen bach yn pisio wedi dod yn sumbol o'r ddinas ac mae'n arferol pan fo rhywun pwysig yn ymweld i ddod â gwisg i Manneken-pis yn rhodd iddo. Mae ganddo dros 600 o wisgoedd ar hyn o bryd. Yn ôl beth ddywedodd DC wrthym ni mae'r crwt bach yn gwisgo iwnifform y Ffiwsilwyr Cymreig ddydd Gŵyl Dewi!

Rhagor o wybodaeth am Manneken-pis sy'n cynnwys lluniau ohonno mewn rhai o'i wisgoedd.

Rhagor o luniau o Manneken-pis, Brwsel.