

RHYBUDD! Bydd manylion ynglŷn â sefyllfa ieithyddol Gwlad Belg yn dilyn. Fe allai beri gofid i rai o natur sensetif.
Ieithoedd Gwlad Belg

I bob pwrpas mae'r ffiniau ieithyddol yn dilyn y ffiniau gweinyddol. Ond wrth gwrs, dyw pethau ddim mor hawdd â hynny - yn y gorllewin mae 'na ynys fach o Ffrangeg yng nghanol Fflandrys Iseldireg (Komen-Waasten, neu, Comines-Warneton), yn y dwyrain mae 'na ynys o Iseldireg yn Walonia Ffrangeg (Voeren, neu, Fourons). Yr ateb oedd symud y ffiniau er mwyn cynnwys y cymunedau o fewn y sir a'r rhanbarth oedd yn cyfateb i'r gymuned ieithyddol. Bu ychydig o chwarae gyda'r ffiniau ar hyd y wlad - y sefyllfa ieithyddol a osododd y ffin rhwng rhanbarthau Gwlad Belg.
Sefydlu hawliau a chymunedau ieithyddol
Bu ardal Gwlad Belg yn ardal ffiniau ers amser y Rhufeiniaid ac mae'r ffin ieithyddol rhwng ieithoedd Ellmynig a Romawns wedi aros yn weddol gyson. Pan sefydlwyd y wladwriaeth yn 1830 roedd bri ar Ffrangeg ac am bron i hanner can mlynedd Ffrangeg oedd iaith y wladwriaeth i bob pwrpas, a'r Iseldireg yn cael ei goddef. Cafodd yr Iseldireg ei chydnabod yn swyddogol am y tro cyntaf yn 1873, ei defnyddio mewn gweinyddiaeh leol yn 1878 ac mewn addysg uwchradd yn 1883. Cafodd ei gosod yn gyfartal â'r Ffrangeg yng Ngwlad Belg o dan y ddeddf yn 1898. Bu adfywiad yn Fflandrys ddiwedd y bedwareg ganrif ar bymtheg, adfywiad a dyfodd yn sgil Rhyfel Byd 1914-1918. Yn dilyn cyfrifiad ieithyddol 1932 fe ddechreuwyd rhannu'r wlad yn ardaloedd ieithyddol gan gyfyngu dwyieithrwydd i Brwsel. Cafwyd cyfrifiad arall yn 1947 a newidiodd ychydig eto ar y ffiniau.
Yn 1963 gyda deddfau ieithyddol newydd penderfynwyd ei bod yn rhaid i bob cymuned berthyn i un cymuned ieithyddol neu'r llall. Symudwyd ffiniau gweinyddol i gydfynd â'r ffin iethyddol mewn rhai mannau. Ond yn y diwedd cafodd Fflandrys ei hun gyda chwe chymuned o gwmpas Brwsel a chwe chymuned ar hyd y ffin ieithyddol lle'r oedd Iseldireg yn brif iaith, ond lle'r roedd rhai hawliau i'r siaradwyr Ffrangeg. Gadawyd pedair cymuned gyda phrif iaith yn Ffrangeg yn Walonia ond gyda rhai hawliau i siaradwyr Iseldireg, un o'r cymunedau hynny yw Komen-Waasten/Comines-Warneton lle byddwn yn ymweld heddiw. Gyda llaw, i'r rhai sydd â diddordeb, mae gan siaradwyr Ffrangeg rai hawliau yn holl diriogaeth y gymuned Almaeneg yn y dwyrain a siaradwyr Almaeneg â hawliau mewn dwy gymuned Ffrangeg eu hiaith.
Rhestr o'r cymunedau sydd â rhai hawliau i siaradwyr ieithoedd eraill
Chwe chymuned Iseldireg o gwmpas Brwsel gyda hawliau Ffrangeg
Drogenbos
Kraainem
Linkebeek
Sint-Genesius-Rode
Wemmel
Wezembeek-Oppem
Chwe chymuned Iseldireg ar y ffin gyda Walonia gyda hawliau Ffrangeg
Bever
Herstappe
Mesen
Ronse
Spiere-Helkijn
Voeren
Pedair cymuned Ffrangeg ar y ffin gyda Fflandrys gyda hawliau Iseldireg
Comines-Warneton
Enghien
Flobecq
Mouscron