Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-30

Y daith i Fflandrys - dydd Sul (25)

Ymlaen i'r Grote Markt

Huis der Hertogen van Brabant, Grote Markt, BrwselWedi cinio roeddem yn barod am fwy o dwrista, ac felly fe aeth DC lawr â ni i'r Grote Markt, neu'r Grand Place. Dyma'r sgwâr sydd wrth galon dinas Brwsel ac fe'i dynodwyd gan UNESCO fel safle o bwysigrwydd byd-eang, rhan o'r Patrimoine mondial neu World heritage. Mae 'na unoliaeth i'r sgwâr er gwaethaf y gwahanol arddulliau sy'n deillio o reoliadau cynllunio a fabwysiadwyd yn 1697 ar gyfer ailgodi'r holl adeiladau a ddinistriwyd yn gyfan neu'n rhannol yn dilyn bomio'r ardal gan fyddinoedd Ffrainc yn 1695.

Yn wreiddiol roedd yr adeiladau o gwmpas sgwâr y farchnad yn dai preifat ond o gyfnod adeiladu'r Stadhuis (Neuadd y dref, 1402-1455) fe'u prynwyd gan wahanol urddau crefft y ddinas.

Ochr orllewinol y Grote Markt

Ochr orllewniol y Grote Markt, BrwselMae gan bob adeilad ar y Grote Markt ei enw a'i rif. Mae'r enwau fel arfer yn deillio o'r cerfluniau ar yr adeilad, neu rhyw fanylyn pensaernïol arall. Dechreuir rhifo'r adeiladau gyda'r ochr orllewinol gan gychwyn gyda'r tŷ ar y dde. Enw'r tŷ cyntaf, rhif 1, yw Den Coninck van Spaignien (Roi d'Espagne); roedd yn arfer bod yn gartref i urdd y pobyddion. Yr adeilad nesaf, rhif 2 (a 3), yw Den Cruywagen (Maison de la Bruette), hwn oedd tŷ urdd y gwneuthurwyr gwêr. Wedyn rhif 4, De Sack (Maison du Sac); rhif 5, De Wolvin (Maison de la Louve) gyda cherflun Romulus a Remus yn sugno'r fleiddiast ar y blaen. Pencadlys y cychwyr oedd yn rhif 6, Den Horen (Maison du Cornet). Yn rhif 7, De Vos (Maison du Renard) gyda'i gerlfun o'r cadno uwchben y drws yr oedd tŷ'r ddilladwyr.

Ochr ddeheuol y Grote Markt

Tŵr y Stadhuis, Grote Markt, BrwselWrth droi tua'r de adeilad y Stadhuis (Hôtel de Ville) sy'n llenwi llawer o'r ochr yma. Adeiladwyd y Stadhuis yn y bymthegfed ganrif pan geisiodd cyngor y ddinas gartref iddo'i hunan oedd yn gymesur â'i gyfoeth a'i awdurdod. Efallai taw'r meindwr yw'r rhan fwyaf trawiadol o'r holl adeilad yn ymestyn am yn agos i 100 meter i'r awyr. Fe godwyd hwnnw gan brif awdurod y dydd ar dyrrau, sef Jan van Ruysbroeck, gŵr a fu hefyd yn gweithio ar godi yr hyn sydd bellach yn eglwys gadeiriol Brwsel. Mae tu fewn i'r Stadhuis i fod yn wych hefyd, unwaith eto yn adlewyrchu cyfoeth a statws cyngor dinas Brwsel ac fe drefnir teithiau o'i gwmpas, ond heddiw does dim digon o amser i wneud popeth a rhaid bodloni ar weld y tu fas yn ei holl ogogniant.

Ochr ddeheuol y Grote Markt, BrwselY tu draw i'r Stadhuis mae'r tai gwych yn parhau, unwaith eto yn mynd o'r dde i'r chwith yn y llun. Y tŷ ar y dde yw rhif 8, De Sterre (Maison de l'Etoille), cartref yr ynad yn y canol oesoedd a ailgodwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y drws nesaf mae rhif 9, De Zwan (Maison du cygne) sy wedi'i enwi ar ôl y cerflun o'r alarch uwchben y drws. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd 'na dafarn yn De Zwan lle byddai Karl Marx a Friedrich Engels yn cyfarfod yn rheolaidd. Ym Mrwsel yr ysrgrifennodd y ddau y maniffesto Cominwyddol. Mae urdd y bragwyr yn dal i wneud eu cartref yn rhif 10, In de Gulden Boom, neu, Brouwerhuis (Maison de l'Arbre d'Or), yr unig urdd sy'n dal i fod yn y Grote Markt. Drws nesaf i hwnnw mae rhif 11, De Roose (La rose), ac yna rhif 12 In den Bergh Thabor (Le Mont Thabor), y ddau yn dai preifat o'r cychwyn.

Ochr ddwyreiniol y Grote Markt

Y prif adeilad ar ochr ddwyreiniol y sgwâr yw plas gwych Dugiau Brabant, Huis der Hertogen van Brabant (Maison des Ducs de Brabant). Yn hanesyddol roedd Brwsel yn gorwedd yn sir Brabant. Mae'r adeilad hwn yn ddatganiad o gyfoeth a phŵer - hyd yn oed heddiw mae gweld yr elfennau goreuriedig yn disgleirio yn yr haul yn drawiadol iawn iawn, er gwaethaf yr holl sfx yr ydym ni wedi arfer â hwy bellach. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn fwy trawiadol byth pan gafodd ei ailgodi a'i adfer yn dilyn bomio 1695.

Ochr ogleddol y Grote Markt

Broodhuis, neu'r Koningshuis, Grote Markt, BrwselAr yr ochr ogleddol y Broodhuis, neu, Koningshuis (Maison du roi) yw'r adeilad mawr. Ni chodwyd yr adeilad hwn tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae'n gopi sy'n adlewyrchu'n ffyddlon y plas a gomisiynwyd gan Carlos V yn 1515 - mae'n sefyll gyferbyn â'r Stadhuis ac roedd Carlos am bwysleisio ei awdurdod yntau fel y brenin. Ni fu brenin yn byw yn y lle erioed, ac mae'r enw Iseldireg, Broodhuis, yn atgoffa dyn taw dyma lle'r oedd marchnad fara'r ddinas yn y canol oesoedd.

De Duif a De Gulde Boot, Grote Markt, BrwselI'r dde o'r Broodhuis saif dau dŷ ag iddynt gefndir diddorol y cyntaf yw De Duif (Maison du Pigeon) ar y chwith, lle bu Victor Hugo yn byw yn alltud wedi gwrthryfel 1848. Yna drws nesaf (yn y canol yn y llun) mae De Gulde Boot (Maison des Tailleurs) tŷ urdd y teilwyr ac ar ben yr adeilad saif delw o S. Boniffas, nawddsant y teilwyr.

Dwi'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i ryw raddau i gyfleu beth yw effaith gweld y Grote Markt ar rywun sy'n dod iddo am y tro cyntaf. Mae'n gwneud argraff arbennig iawn, ond mae'n rhaid gen i fod llawer yn cerdded heibio i'w hynodrwydd fel un lle arall i'w wneud ar y llwybr twristiaid o gwmpas Ewrop ac o gwmpas y byd. Ceir eraill sy wedi'u meddiannu gyda'r sgwâr ac yn mynd ati i gofnodi ac i adrodd hanes pob tŷ yn unigol a hanes pob teulu sydd wedi byw yno erioed. Rhaid imi gyfaddef fy mod yn medru cydymdeimlo gyda'r grŵp olaf yn fawr - mae 'na rhywbeth hudolus iawn am y sgwâr. Yr unig drueni yw bod miloedd o bobl eraill yno yr un pryd â mi, byddai bod yno ar fy mhen fy hun yn brofiad mae'n siŵr.

Dim rhyfedd fod angen hoe a gorffwys ar ôl yr holl ddiwylliant, ac felly i fwrdd â ni i far yn Hoedenmakersstraat (Rue des Chapeliers) lle bu'r cyfeillion a DC yn trafod yr "hen amser" a gwleidyddiaeth nes ei bod yn amser mynd am adref.

Rhagor o luniau o'r Grote Markt, Brwsel.