Cwrdd â DC yng ngorsaf Brussel Centraal
Roedd DML wedi ffonio DC, pennaeth 
Swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru yn yr UE ym Mrwsel, cyn inni fynd ar y daith er mwyn trefnu cyfarfod. Roedd DML yn y coleg gyda DC yn Aberystwyth, ac roedd Dr HW a RO wedi dod yn gyfeillgar ag ef yn ystod ei gyfnod yn Aber. Dwi ddim yn ei adnabod o gwbl, ond wedi clywed llawer amdano. Mae'n dod o ganolbarth Lloegr o gefndir Gwyddelig ac wedi dysgu Cymraeg. Cyn ei swydd bresennol bu'n gweithio i'r BBC, yna i Ron Davies pan roedd yn Ysgrifennydd Cymru, ac i Alun Michael a Rhodri Morgan pan yn brif weinidogion y Cynulliad. Mae'n bennaeth swyddfa Brwsel ers rhyw 5 mlynedd. Roedd hi'n amlwg ei fod yn mwynhau ei swydd.

Roedd DML wedi gwneud trefniant i gwrdd â DC yng ngorsaf Brussel Centraal am 14.00. Roedd ychdig yn hwyr, ond pan ddaeth roedd pawb yn edrych yn falch iawn i weld ei gilydd. Y peth cyntaf roeddwn i am iddo i'w wneud oedd ein harwain at rywle i gael bwyd gan fod yr amser yn mynd yn ei flaen. Felly lawr â ni o'r orsaf tuag at gyfeiriad y Grote Markt,neu'r Grand Place, yng nghanol Brwsel. Ar ein ffordd dyma basio tŷ bwyta Twrcaidd a galw fan'ny i gael cinio. Penderfynais i gael 
ffalaffels (resait mewn 
Iseldireg a rysait mewn 
Saesneg) ac roedd y pryd yn flasus iawn. Dwi ddim yn gwybod a oedd hynny am fy mod yn disgwyl am fy nghinio, neu oherwydd ei fod yn flasus!