Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-30

Y daith i Fflandrys - dydd Sul (23)

'Nôl i ganol y ddinas

Beurs, BrwselYdw, rydw i'n dal i fod ar y bws yn mynd o gwmpas Brwsel, ond mae'r daith yn dirwy'n tua'i therfyn. Wedi gweld adeilad Gweinyddiaeth y Gymuned Fflemaidd, does dim llawer o waith nes ein bod yn ôl ger gorsaf Brussel Centraal. Ond cyn gwneud dyma fynd heibio i'r Beurs, neu'r hen gyfnewidfa stoc. Mae'r adeilad yn bopeth y buasech yn ei ddisgwyl o adeilad ar gyfer hybu cyfalafiaeth - clasurol, mawr iawn, yn gyforiog o gerfluniau. Fe'i hadeiladwyd gan y pensaer Leon Suys yn 1873. Dim llawer o amser bellach nes ein bod ni'n ôl lle cychwynodd y daith, gorsaf Brussel Centraal. Dwi'n gwybod i'r daith fod yn rhy hir ac yn rhy oer i eraill, ond i fod yn gwbl hunanol fe wnes i fwynhau pob eiliad. Dwi'n dal i ddweud nad oes yr un ffordd well i weld dinas mewn hanner diwrnod na'r daith bws i dwristiaid. Petai gennym ddiwrnod cyfan fe fyddwn wedi disgyn mewn rhai mannau. Ond dwi'n credu imi gael gwerth fy €16 o daith. Piti nad oedd y ffônau clust yn gweithio, ond mae'r holl ymchwil dwi wedi'i wneud ar ôl dod adref wedi sicrhau fy mod yn gwybod bron beth oedd popeth wnes i weld.

Mae'n 13.45 ac rydym ni nôl wrth orsaf Brussel Centraal. Dyw'r diwrnod ddim ar ben eto. Rydym i gwrdd ag un o'r mandarinau, cael cinio, gweld y Grote Markt, Manekken Pis a mynd 'nôl i Rollegem cyn diwedd y dydd. Mae hwn eto yn ddiwrnod llawn iawn.

Y lluniau o'r daith o gwmpas Brwsel ar y bws.