
Wedi'r gwasanaeth bore aeth WD a finnau am goffi i gaffi Caesar's. Yn ddiwedarach ymunodd DML, RO a DJP â fi i gael cinio. Yng nghaffi Caesar's maen nhw'n gwneud tepotaid o de i un gan ei ddod mewn llestr sy'n cynnwys y cwpan a'r tepot mewn un. Dwi'n meddwl fod y peth yn glyfar iawn a dwi wedi dwli ar y peth.


Roedd DML yn mynd i Gaerdydd y prynhawn 'ma ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Roedd yn cael lifft i lawr gan RAJ ar ei ffordd i Beriw. Bues i mas yn yr eglwys heno yn arwain y gwasanaeth. Ar nos y pumed Sul byddwn yn addoli ar y cyd â Christnogion Eglwys Fethodistaidd S. Paul. Hwy oedd yn dod atom ni heno ac felly un o'i plith hwy oedd yn pregethu - "Y ffordd" oedd ei destun. Wedyn adref i fflat wag a mwy o ysgrifennu. Ffoniodd RO cyn i mi fynd i'r gwely. Mae yntau ac eraill yn mynd i lawr i'r Gelli Gandryll yfory ar gyfer yr Hay Festival. Buasai'n dda fod wedi cael cyfle i fynd am y gwmnïaeth ond roeddwn i'n rhy fawr a'r bws yn rhy fach, felly gwneud gwaith tŷ amdani 'fory a gwylio'r rhagbrofion o Eisteddfod yr Urdd ar S4C2.