Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-28

Y daith i Fflandrys - dydd Sul (22)

Ministerie van de Vlaamse Gemeenschap

Ministerie van de Vlaamse Gemeenschap, BrwselMae'r bws yn awr yn prysuro 'nôl i ganol y ddinas. Ar y ffordd y mae'n mynd heibio i adeilad sydd yn achosi mwy o gyffro ynof fi na stiwdio Vlaamse Radio- en Televisieomroep, sef swyddfeydd Gweinyddiaeth y Gymuned Fflemaidd, neu'r Ministerie van de Vlaamse Gemeenschap. Nawr, dyw'r adeilad ddim yn edrych yn ddim gwahanol na'r cannoedd o swyddfeydd yr ydym wedi pasio ar ein taith ar y bws, ond dyma arwydd ein bod yn un o wladwriaethau mwyaf datganoledig Ewrop.

RHYBUDD! Mae gweddill y blog yn sôn rhagor am sustem lywodraethol a gwleidyddiaeth Fflandrys.

Gwladwriaeth ffederal

Dwi wedi ceisio esbonio sustem lywodraethol Gwlad Belg o'r blaen, ond dwi'n mynd i geisio esbonio'n yn llawnach nawr. Ers y 1970au mae'r wladwriaeth wedi newid o fod yn un ganolog i fod yn un ffederal yn dilyn gwrthdaro rhwng y cymunedau ieithyddol yn y 1960au. I bob pwrpas ers canol y 1990au mae Fflandrys wedi bod yn gweithredu yn debyg iawn i wladwriaeth gyda'i senedd, baner, anthem a chynrychiolwyr tramor ei hun. I raddau helaeth iawn mae'r enw Gwlad Belg wedi diflannu o fewn i Fflandrys gyda'r ansoddair Fflemaidd neu Vlaams yn ei ddisodli i ddisgrifio ei sefydliadau "cenedlaethol".

Cymunedau a rhanbarthau

Mae Gwlad Belg yn wladwriaeth ffederal sy'n cynnwys cymunedau a rhanbarthau ac mae gan y cymunedau a'r rhanbarthau eu dyletswyddau a'u hawdurdod priodol. Y tair cymuned yw'r gymuned Fflemaidd (sy'n cyfateb i'r ardal sy'n siarad Iseldireg a dyletswyddau penodol yn ardal ddwyieithog Brwsel), y gymuned Ffrangeg (sy'n cyfateb i'r ardal sy'n siarad Ffrangeg a dyletswyddau penodol yn ardal ddwyieithog Brwsel), a'r gymuned Almaeneg (sy'n cyfateb i'r ardal sy'n siarad Almaeneg). Yn ogystal â thai cymuned mae 'na dri rhanbarth: rhanbarth Fflandrys (sy'n cyfateb i'r ardal sy'n siarad Iseldireg), rhanbarth Walonia (sy'n cyfateb i'r ardaloedd sy'n siarad Ffrangeg ac Almaeneg), rhanbarth Brwsel (sy'n cyfateb i'r ardal ddwyieithog). Mae'r gymuned Fflemaidd a rhanbarth Fflandrys wedi uno ac felly un senedd ac un llywodraeth sy'n gyfrifiol am ddyletswyddau ac awdurdod cymunedol a rhanbarthol yno.

Mae cymunedau yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â diwylliant, addysg, rhai agweddau ar iechyd, a materion ieithyddol. Cyfrifoleb y rhanbarthau yw polisïau economaidd, cflogaeth, ynni, trafnidiaeth, amaethyddiaeth, awdurdodau lleol, amgylchedd, tai a chynllunio.

Senedd Fflandrys

Mae 124 o aelodau yn Senedd Flandrys. Cynhaliwyd yr etholiadau uniongyrchol cyntaf i'r senedd yn 1995. Yn yr etholiadau diwethaf (2004) etholwyd cynrychiolwyr 10 o bleidiau gwahanol i'r senedd, ond mewn clybleidiau cymhleth yn hytrach nag ar eu pennau eu hunain. (Mae'r disgrifiad "rhanbarthol" yn golygu fod plaid yn derbyn y sefyllfa ffederal o fewn i wladwriaeth Gwlad Belg, tra bo'r disgrifiad "cenedlaetholgar" yn golgyu fod plaid yn credu mewn creu gwladwriaeth Fflemaidd).

35 sedd - Christen-Democratisch en Vlaams/Nieuw-Vlaamse Alliantie. Clymblaid etholiadol rhwng plaid ranbarthol canol-de (CD&V) a phlaid genedlaetholgar canol-de (N-VA).
32 sedd - Vlaams Belang. Plaid genedlaetholgar asgell-dde a etholwyd o dan yr enw Vlaams Blok, ond oherwydd dyfarniad llys ei bod yn blaid hiliol a ailffurfiwyd fel Vlaams Belang yn 2004.
25 sedd - Socialistische Partij - Anders/Spirit. Clymblaid etholiadol rhwng plaid sosialaidd ranbarthol (SP.A) a phlaid genedlaetholgar canol-chwith (Spirit).
25 sedd - Vlaamse Liberalen en Democraten/Vivant. Clymblaid rhwng plaid ranbarthol democrataidd ryddfryddol (VLD) a phlaid ranbarthol ryddfyrdol unigolyddol sy'n cael ei hariannu gan un dyn (Vivant).
6 sedd - Groen!. Plaid ecolegol.
1 sedd - Union des francophones du Brabant Flamand. Plaid yn cynrychioli siaradwyr Ffrangeg sy'n byw ym maesdrefi rhanbarth dwyieithog Brwsel ond ar diriogaeth Fflandrys - mae ganddynt rhai hawliau ieithyddol mewn chwe "chyngor cymuned" ond dim hawliau yn y gweddill. Dyma ardal Brussel-Halle-Vilvoorde sy'n achosi cymaint o wrthdaro ac ansyfedlogrwydd yng Ngwlad Belg ar hyn o bryd.

Llywodraeth Fflandrys

Gall Llywodraeth Fflandrys fod ag 11 gweinidog ac mae'n rhaid i un ohonynt ddod o Frwsel. Y blaid gyda'r mwyafrif mwyaf sy'n llenwi swydd y "prif weinidog", neu minister-president. Dyma aelodau presennol y Llywodraeth.

Yves Leterme CD&V
Prif weinidog, a gweinidog dros ddiwygio sefydliadol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd môr a pholisi gwleidg
Fientje Moerman VLD
Dirprwy brif weinidog a gweinidog dros yr economi, menter, busnes, gwyddoniaeth, a masnach dramor
Frank Vandenbroucke SP.A
Dirpwy brif weinidog a gweinidog dros waith, addysg a hyfforddiant
Inge Vervotte CD&V
Gweinidog dros Iechyd, Llês, a'r Teulu
Dirk van Mechelen VLD
Gweinidog dros gyllid, y gyllideb, a chynllunio gwlad a thref
Bert Anciaux Spirit
Gweinidog dros ddiwylliant, ieuenctid, chwaraeon a materion yn ymwneud â Brwsel
Geert Bourgeois N-VA
Gweinidog materion gweinyddol, polisi tramor, y cyfryngau a thwristiaeth
Kris Peeters CD&V
Gweinidog adeildadau cyhoeddus, ynni, yr amgylchfyd a natur
Marino Keulen VLD
Gweinidog dros faterion cartref, polisi trefol, tai a chynwhysiant cymdeithasol
Kathleen van Brempt SP.A
Gweinidog dros symudedd, yr economi cymdeithasol a chyfleoedd cyfartal

Y lluniau o'r daith o gwmpas Brwsel ar y bws.