Porthladd Brwsel
Er ein bod yn bell o'r môr mae Brwsel yn borthladd o bwys. Brwsel yw'r ail borthladd mwyaf yng Ngwlad Belg nad yw'n gorwedd ar yr arfordir. Ac wedi gadael ardal Laken dyma'r bws yn mynd â ni heibio i ardal y porthladd. O gwmpas y porthladd mae nifer fawr o fusnesau bach a chanolig wedi datblygu, a chanolfan fasnachol fawr. Ac mae hyn i gyd yn digwydd o fewn tafliad carreg i ganol y ddinas.
Y lluniau o'r daith o gwmpas Brwsel ar y bws.