Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-29

Canolfan arddio Arthur Newman

AD a'i blodau newyddAmser cinio ddydd Gwener diwethaf fe es i gael cinio gydag AD yng nghanolfan arddio Arthur Newman yng Nghapel Dewi. Mae AD yn un am ei garddio a'i planhigion; dwi'n dod am y cinio. Fel mae'n digwydd heddiw roedd pobol newydd yn rhedeg y lle bwyta - lot llai o ddewis, llawer arafach a gwasaneth ofnadwy. Buon ni'n disgwyl am oesoedd am ein bwyd. Ond pan ddaeth y bwyd roedd yn flasus dros ben - ges i basti cyri cyw iar gyda salad ac fe gafodd AD gîsh gyda salad. Wedyn am dro o gwmpas y ganolfan. Dwi'n mwynhau edrych ar yr holl blanhigion a blodau, ond dwi'n rhyfeddu i weld fod pobol yn prynu brwyn a phorfa a grug bellach - roeddwn i'n cymryd yr holl bethau yma yn ganiatol ym Mynachlog-ddu slawer dydd!

Rhagor o luniau o Ganolfan Arddio Arthur Newman, Capel Dewi.