Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-27

Y daith i Fflandrys - dydd Sul (19)

Justitiepaleis

Justitiepaleis, BrwselEfallai taw'r adeilad mwyaf trawiadol yn yr ardal frenhinol yw'r Justitiepaleis, gwaith y pensaer Joseph Poelaert. Fe'i codwyd yn ystod teyrnasiad Leopold II a oedd am droi Brwsel yn un brifddinasoedd mwyaf gogoneddus y byd. Codwyd y Justitiepaleis, neu'r Llysoedd Barn, ar y safle lle'r arferid crogi drwgweithredwyr y ddinas. Cymerodd bron i ungain mlynedd i godi'r adeilad gan orffen yn 1883. Aeth Poelart yn wallgof a bu farw cyn i'r adeiladu ddod i ben. Fe ddaeth Leopold II yn amlwg oherwydd ei gyfrifoldeb dros y gormes yn y Congo Free State. Y gormes y bu'r cenedlaetholwr Gwyddelig Roger Casement yn gyfrifol am ei ddatguddio. Mae'r hyn a ddigwyddodd yn y Congo yn dal i fod yn rhybweth anodd iawn i sôn amdano yng Ngwlad Belg.

Ardal y sefydliadau Ewropeaidd

Berlaymontgebouw, adeilad y Comisiwn Ewropeaidd, BrwselAr ôl mynd heibio i'r Palas Brenhinol ac eglwys Sint-Jacob op der Koudenberg, fe aethom i ardal y sefydliadau Ewropeaidd. Erbyn heddiw mae enw Brwsel yn gyfystyr â'r sefydliadau yma - y senedd, y comisiwn a'r cyngor. Er eu pwysgirwydd, mewn dinas fawr fel Brwsel nid ydynt yn edrych yn fwy gogneddus na phwysig na nifer fawr o adeiladau eraill. Ond mae'n rhyfedd meddwl ein bod yn ethol cynrychiolwyr yn uniongyrchol i eistedd mewn sefydliad fel y Senedd Ewropeaidd, a hynny yr un pryd â miliynau o bobol ar hyd a lled Ewrop. Yn briodol ddigon mae'r sefydliadau yn agos i Robert Schumanplein, a enwyd er cof am Robert Schuman, un o brif benseiri undod Ewropeaidd.

Tuag at Laken

Chinees paviljoen, Van Praetlaan, BrwselWedi'r sefydliadau Ewropeaidd ymlaen at fwy o sefydliadau brenhinol yn ardal Laken o'r brifddinas - dyma lle'r oedd ystad bersonol y teulu brenhinol, a dyma lle mae eu cartref o hyd yn Koninklijk Paleis te Laken - cartref swyddogol yw'r palas yng nghanol y ddinas! Mae'r ystad a'r parciau oedd yn rhan ohoni bellach yn eiddo i'r wladwriaeth. Er ei bod y frenhinaeth yn rhywbeth sy'n cael ei gweld fel cyfrwng uno Gwlad Belg bellach nid oes ond angen edrych ar hanes Leopold III i weld sut y bu iddi rannu'r wlad yn y gorffennol. Ym Mhalas Laken y priododd Leopold III a'i wraig Mary Lilian Baels yn ystod Rhyfel Byd 1939-1945 pan roedd y wlad ym meddiant y Natsïaid. Gwelwyd Baels fel rhywun oedd yn gyfeillgar i'r Natsïaid ac roedd amau ei fod yntau yn teimlo'r un peth. Gorfodwyd hwy i fyw yn alltud yn yr Almaen am weddill y rhyfel ac ar ddiwedd yr rhyfel roedd pobol mor anfodlon gyda'i ymddygiad fel bu'n rhaid iddo dro'i alltud unwaith eto. Yn y cyfamser gweithredai ei frawd yn lle'r brenin. Pan geisiodd Leopold ddychwelyd unwaith eto i'r wlad ddechrau'r 1950au bu'n achos reiats, ac yn y diwedd bu'n rhaid iddo sefyll lawr a daeth ei fab Boudewijn yn frenin.

Yn ardal Laken gwelir llawer o olion gwario Leopold II. Wrth edrych ar y gwrthrychau hyfryd hyn megis y Pafiliwn Tseinïaidd a'r Tŵr Siapaneaidd, mae'n bwysg cofio fod y cyfan wedi'i dalu amdano gan arian y Congo. Roedd Leopold II wedi gweld pethau tebyg yn arddangosfa fawr Paris ac am gael rhai yn Brwsel iddo'i hun.

Atomium

Atomium, BrwselYn agos at Laken saif un o'r adeiladau hynotaf ym Mrwsel, os nad Ewrop, sef yr Atomium. Mae hanes yr adeilad yn debyg iawn i hanes Tŵr Eiffel - fe'u bwriadwyd yn wreiddiol fel adeiladau dros dros, ond erbyn heddiw mae miloedd yn tyrru i'w gweld flynyddoedd ar ôl yr adeg yr oeddent fod wedi'u dymchwel. Adeiladwyd Atomium ar gyfer ffair fasnach ym Mrwsel yn 1958 ond oherwydd ei hynodrwydd fe ddaeth yn atynfa, ac mae'n dal ar ei draed. Wrth gwrs pan fo adeilad yn cael ei godi fel un dros dro nid yw'n cael ei gynllunio i bara am byth, felly dros y blynyddoedd diwethaf mae'r awdurdodau wedi bod yn gwario ac yn gwario ar adfer y lle. Mae'r cynllun hwnnw i fod ddod i ben cyn bo hir. Er mor ddiddorol nid oes gennym ni'r amser i ddisgyn a mynd yn nes at yr adeilad, felly ymlaen â ni i'r lle nesaf ar lwybr yr ymwelydd.

Y lluniau o'r daith o gwmpas Brwsel ar y bws.