Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-27

Y daith i Fflandrys - dydd Sul (20)

Stiwdios Vlaamse Radio- en Televisieomroep

Stiwdio VRT, BrwselYn annisgwyl wrth deithio o gwmpas ardal Laken rhwng y palas brenhinol a'r Atomium fe sylwais arnom pasio stiwdio gwasanaeth darlledu Iseldireg Fflandrys/Gwlad Belg, sef VRT (Vlaamse Radio- en Televisieomroep). Dwi ddim yn credu i unrhyw un arall ar y bws sylwi ar hyn, a dwi'n gwybod na wnaeth neb arall ar y bws gyffroi fel y gwnes i. Un o'r pleserau o aros yng ngwesty Rollegem yw'r cyfle i wylio teledu mewn Iseldireg o fore gwyn tan nos. Dwi'n ei chael hi'n braf iawn edrych ar deledu nad ydw i yn ei ddeall o gwbl ac eto yn mwynhau'r profiad yn fawr iawn. Does dim angen deall bob amser er mwyn mwynhau! Efallai y buasai deall yn swbwylio'r peth - er enghraifft, nid yw silfoedd uniaith Saesneg siopau Spar yng Nghymru yn fy nghyffroi fel siloedd tair-ieithog siopau Spar Fflandrys a Gwlad Belg!

Yn ddiddorol iawn rhywbeth sy'n perthyn i'r rhanbarthau yw darlledu yng Ngwlad Belg. Felly mae Cymuned Fflemaidd yn rheoli darlledu yn ei thiriogaeth. Pan sefydlwyd sustem llywodraeth ffederal Gwlad Belg fe fu'n rhaid i'r hen rwydwaith darlledu Fflandrys BRTN (Belgische Radio en Televisie - Nederlandse Uitzendingen) negodu gyda'r llywodraeth newydd. O ganlyniad troes y BRTN yn VRT gan hepgor unrhyw gyfeiriad at Wlad Belg yn yr enw, a dod yn gwmni cyhoeddus yn eiddo i Weinyddiaeth y Gymuned Fflemaidd. Erbyn hyn mae VRT yn darparu tair sianel deledu - één (y brif sianel), Ketnet (sianel i blant) a Canvas (rhyw fath o BBC2/BBC4). Mae Ketnet a Canvas yn defnyddio'r un sianel deledu gyda'r yn gorffen darlleud am 8.00pm a'r llall yn cychwyn. Mae'n darparu hefyd nifer fawr o sianelau radio.

Stiwdios VRT, BrwselGan taw'r cymunedau sydd yng ngofal darlledu yng Ngwlad Belg nid yw teledu Ffrangeg ar gael yn Fflandrys na theledu Iseldireg ar gael yn Walonia, gan nad oes y fath beth yn bodoli â gwasanaeth teledu i'r wladwriaeth yn ei chyfanrwydd. Dim ond yn ardal Brwsel y mae'n bosib gweld yr holl sianelau yn rhydd a heb drafferth. Ond gan fod cynifer yn medru'r ddwy iaith maen nhw am weld beth sydd ar y sianelau eraill ond nid ydynt am dalu crocbris i'r cwmnïau cebl neu loeren i ddarparu y sianelau iddynt fel rhan o becyn arbennig, felly mae llawer iawn o driciau yn cael eu defnyddio i dderbyn y sianelau eraill - yn arbennig felly ar y ffin ieithyddol.

Yn y pentref lle'r oeddwn i'n aros, Rollegem, sydd ar y ffin ieithyddol a phawb yn siarad Iseldireg roedd bron pawb hefyd yn siarad Ffrangeg gan eu bod yn gweithio yn aml iawn mewn ffatrïoedd yn Walonia sy'n llai na 10km i ffwrdd, roedd pawb am y dewis o fedru gweld teledu Walonia yn ôl rheolwr y gwesty. Nid bod prinder sianelau teledu i'w gwylio yng Ngwlad Belg. Yn y gwesty roedd hi'n bosib derbyn holl sianelau Iseldireg a Ffrangeg Gwlad Belg, sianelau teledu cyhoeddus Ffrainc, yr Iseldrioedd a'r Almaen, a sianelau'r BBC!

Y lluniau o'r daith o gwmpas Brwsel ar y bws.