Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-26

Y daith i Fflandrys - dydd Sul (18)

Bws o gwmpas Brwsel

Golygfa o Brwsel o PoelartpleinFel y dywedais rodd y daith yn cychwyn ac yn gorffen wrth Brussel Centraal, ond ein bod ni wedi cael bws i fynd â ni'r ychydig bellter o'r eglwys gadeiriol i'r bws go iawn oedd yn mynd i fynd â ni ar daith. Bysus Golden Tours oedden nhw ac roedd eu taith yn mynd â ni o gwmpas llawer o adeiladau a lleoliadau arbennig y brifddinas. Wrth deithio o gwmpas yr hyn wnaeth fy nharo i oedd pa mor "frenhinol" yw'r brifddinas ond nid yw hynny heb ei arwyddocâd. Wrth drafod dyfodol Gwlad Belg gyda DC fe nododd beth sy'n cael ei ddweud yw'r hyn sy'n cadw'r wlad rhag syrthio'n ddarnau - Brwsel ei hun, y ddyled wladol, ac wrth gwrs, y teulu brenhinol. Mae'n ddiddorol pam fod Brwsel yn cadw'r wlad at ei gilydd - er ei bod i bob pwrpas yn ddinas Ffrangeg ei hiaith mae'n gorwedd yn nhiriogaeth Fflandrys yr ardal Iseldireg, ac mae'r Ffleminiaid yn credu taw wedi'i dwyn oddi arnyn nhw y mae a bod ganddynt ddyletswydd i sicrhau fod y siaradwyr Iseldireg sydd ar ôl yno yn cael eu hamddiffyn. Ac wrth gwrs dyw nhw ddim am gyfaddef fod gan siaradwyr Ffrangeg Brwsel unrhyw hawl i'r ddinas o gwbl - rhywbeth dros dro yw eu goruchafiaeth hwy. Rhaid cadw gafael arni felly.

Y frenhiniaeth

Koninklijk Paleis, BrwselCychwynnodd y daith ger gorsaf Brussel Centraal, a'r ardal gyntaf inni fynd i'w gweld oedd yr "Ardal Frenhinol" o gwmpas y Palas Brenhinol, neu'r Koninklijk Paleis. Fel y dywedais mae'r frenhiniaeth yn cael ei gweld fel un o'r sefydliadau sy'n cadw Gwlad Belg yn unedig. Yn dilyn gwrthryfel 1830 yn erbyn y brenin Wilem I a arweiniodd sefydlwyd gwladwriaeth Gwlad Belg yn 1831 gyda chydsyniad y pwerau mawrion (ar ôl iddyn nhw geisio sefydlu yn y lle cyntaf deyrnas unedig yn cynnwys yr Iseldiroedd a Gwlad Belg gyda Wilem I fel brenin) nid oedd unrhyw fwriad chwyldroadol i ymhel â syniadau newydd fel gweriniaeth. Felly fe chwiliwyd am frenin a ddewiswyd Leopold, Dug Saxe-Cobourg Saalfeld, gyda "chymorth" Prydain. Roedd rhwyun arall wedi cael cynnig y swydd yn gyntaf oll ac wedi'i gwrthod, yn yr un modd roedd Leopold wedi cael cynnig bod yn frenin Groeg ac wedi gwrthod hynny. Yn ôl yr haneswyr fe weithiodd Leopold I yn galed i sefydlu Gwlad Belg fel gwladwriaeth annibynnol a sefydlog.

Onze-Lieve-Vrouw-ter-Zavelkerk, BrwselMae ardal frenhinol yn cynnwys nifer o safleoedd pwysig a diddorol yn eu plith Eglwys Onze-Lieve-Vrouw ter-Zavelkerk (Notre Dame du Sablon). Hyd ddiwedd y 13eg ganrif roedd ardal Zavel tu fas i furiau dinas Brwsel. Ond yn 1304 fe gododd Urdd y Bwasaethwyr gapel yma wedi'i gysegru ar enw Mair Mam ein Harglwydd. Yn fuan troes y lle yn ganolfan i bererinion. Yn 1348 cafodd gwraig dduwiol o'r enw Beatrijs Soetkins weledigaeth gan dderbyn neges gan Mair i ddwyn delw'r Madonna o eglwys yn Antwerpen a dod â dod ag e 'nôl i'r capel yn Zalver. Daeth pobl i gredu fod y delw yn un gwyrthiol ac dechreuwyd pererindota i'r capel bach yn Zalver ac o ganlyniad datblygodd y capel bach yn eglwys fawreddog a gwych. Daeth dathlu cipio'r ddelw yn ŵyl flynyddol, ac allan o honno daeth yr Ommegang sef gŵyl sydd yn dal i'w chynnal yn flynyddol ym Mrwsel ond sydd wedi hen anghofio unrhyw gysylltiadau crefyddol.

Y lluniau o'r daith o gwmpas Brwsel ar y bws.