Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-26

Y daith i Fflandrys - dydd Sul (17)

Mae'r cyfle wedi dod i ddechrau adrodd hanes ein pedwaredd diwrnod yn Fflandrys a Gwlad Belg. Dwi'n ofni na fyddaf yn gorffen yr hanes ar unwaith oherwydd fod llawer o bethau diddorol i'w dweud am ein hymweliad â phrifddinas Fflandrys, Gwlad Belg a'r Undeb Ewropeaidd.

Brwsel

Atomium, BrwselNi wnaethom godi yn rhy fore heddiw, ond wedi brecwast yr oeddem ar ein ffordd i orsaf Kortrijk unwaith eto. Y tro hwn yr oeddem yn teithio i'r dwyrain am Brwsel. Roedd y daith o Kortrijk i Frwsel yn cymryd awr. Prynu'r tocynnau unwaith eto mewn Iseldireg - €11 yr un - ac wedyn edrych am y platfform. O fewn dim roeddem yn gadael Kortrijk.

Ni ddigwyddodd llawer o ddim byd cyffrous ar y daith ond roedd cyrraedd Brwsel yn gyffro. Roedd yr orsaf, Brussel Central, yn eithaf trawiadol - yn debycach i orsaf mewn ffilm Ewropeaidd nag yw gorsaf bitw Aberystwyth. Ac wedyn yr iaith oedd i'w chlywed o'n cwmpas oedd Ffrangeg, a phan aethom i gael coffi cyntaf y dydd roedd yn rhaid defnyddio Ffrangeg i archebu.

Yr hyn sy'n taro dyn yw pa mor fawr yw Brwsel o'i chymharu â Rollegem ac Aberystwyth. Ac mae'r adeiladau yn fawr ac yn gweiddi "pwysig" fel petaent yn dweud fod hon yn ddinas gyfoethog sy'n cyfri. Mae hi'n ddinas ddiddorol yn ieithyddol hefyd. Rhennir Gwlad Belg yn rhanbarthau - Fflandrys (5.5 miliwn) sy'n siarad Iseldireg; Walonia (3.5 miliwn) sy'n siarad Ffrangeg yn bennaf er bod 'na leiafrif Almaeneg (60,000) yno; a Brwsel (1 miliwn) sy'n rhanbarth dwyieithog Ffrangeg ac Iseldireg, er bod rhyw 90% o'r boblogaeth yn siarad Ffrangeg. I bob pwrpas Brwsel yw'r unig ran ddwyieithog o'r wladwriaeth, ar arwyddion swyddogol mae'r dwyieithrwydd yn drawiadol. Ond mae'r sector preifat yn dueddol o fod yn Ffrangeg yn unig tra bod sefydliadau llywodraethol rhanbarth Fflandrys sydd wedi'u lleoli ym Mrwsel yn uniaith Iseldireg.

Eglwys Gadeiriol Sint-Michiels-en-Goedele, BrwselRoedd DML wedi trefnu i gwrdd â DC, un o fiwrocratiaid dinas Brwsel, yng ngorsaf Brussel Centraal am 2.00pm felly roedd rhyw ddwy awr a hanner i'w lladd cyn hynny. Ar ôl ein coffi dyma gerdded yn hamddenol i gyfeiriad yr eglwys gadeiriol, Sint-Michelis. Ac wrth fynd heibio porth y gorllewin dyma weld bws oedd yn cynnig gwibdaith o'r dinas. Wedi cael ein sichrau gan y gyrrwr fod y daith yn gorffen erbyn 1.45pm o flaen Brussel Centraal, ganolygu ein bod 'nôl mewn amser i gwrdd â'r biwrocrat, fe gytunodd pawb y byddai'n syniad da cymryd mynd ar y trip.

Rhaid imi gyfaddef fy mod yn un am gymryd tripiau bws o'r fath pan fyddaf mewn dinas ond am ychydig amser. Mae'n gyfle i weld "popeth" heb lawer o ymdrech. Nid oeddem wedi meddwl am ddim penodol i'w wneud ym Mrwsel ond cwrdd â DC, felly roedd hyn yn gyfle gwych i weld pethau.

Ar y bws

Atomium, BrwselNi chefais fy siomi yn y daith bws o gwbl, fe welwyd "popeth" bron ac fe wnes i dynnu llun o'r hyn a fedrwn. Fe aeth y pedwar ohonom i eistedd ar loft y bws, lloft heb do fel ein bod yn medru gweld y cwbl. Yn anffodus roedd y gwynt yn chwythu'n oer ac fe fu'n drech nag un o'n plith a dreuliodd y rhan fwyaf o'r daith yn niogelwch y llawr isaf. A dyna un anfantais o fynd o gwmpas mewn bws felly mae'n gofyn am barodrwydd i wynebu'r elfennau ... a llygredd myglyd y ddinas. Yr unig gysur oedd nad oedd hi wedi bwrw ar ein taith o awr a hanner ac er na wnaeth fy nghyrn clust i weithio i glywed y sylwebaeth roedd RO yn fwy na pharod i rannu'r hyn yr oedd ef yn ei glywed gyda mi. Ond gwelais i gymaint o'r bws a thynny cymaint o luniau fel ei bod hi wedi cymryd rhyw wythnos o ymchwil i adnabod popeth ar ôl dod adref!

Y lluniau o'r daith o gwmpas Brwsel ar y bws.