Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-26

Mwy o hanes i ddod

Dwi'n ofni y bydd yn rhaid aros am ychydig am fwy o hanes y daith i Fflandrys. Dwi wedi adrodd am dri diwrnod yn barod yn weddol fanwl. Dwi ar hyn o bryd yn paratoi dweud hanes ein taith i Frwsel i weld beth oedd i weld, ac i gyfarfod ag un o fandarinau'r ddinas honno. Ond mae'n cymryd mwy o amser nag yr oeddwn yn ei dybio - ond dwi'n addo y daw y dydd! Doedd hi ddim yn llawer o help fy mod wedi gwylio gêm AC Milan v. Lerpwl - gormod o gyffro i feddwl am ddim byd arall neithiwr.

Yn y cyfamser fe ddaeth llythyr ddoe oddi wrth Adran Addysg Llywodraeth Fflandrys. Mae ganddynt hwy gynllun i hybu pobol i ddysgu Iseldireg Nederlands voor anderstalingen, rhyw fath o EFL Iseldireg. Dwi'n gobeithio cofrestru ar y cwrs. Mae'n costio €65 a'r broblem ar hyn o bryd yw sut dwi'n mynd i gael yr arian at Begeleid individueel studeren - mae'n rhaid imi gael gwybodaeth am eu IBAN. Rhaid ymchwilio yn bellach.