Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-24

Y daith i Fflandrys - dydd Sadwrn (16)

Rollegem

Siop Spar, RollegemOherwydd ein bod adref yn gymharol gynnar - tua 6.00pm - a doedd swper ddim tan 8.00pm fe gymerais y cyfle i grwydro o gwmpas pentref Rollegem. Mae Rollegem yn bentref o ryw 3,000 o bobol. Hyd 1977 roedd ganddo faer a chyngor ei hun, ond ers hynny y mae wedi bod yn rhan o Gyngor Kortrijk.

Y lle cyntaf imi fynd i'w weld oedd y Siop Spar oedd rhyw gan llath o Elckerlyck Inn. Roedd wedi cau, ond fe gefais ar ddeall y byddai'n agor am 8.00am fore trannoeth. Wrth gerdded yn ôl o'r siop dyma fynd heibio i ysgol arbennig ac ysgol gynradd ar yr un safle, ond ni welais i ysgol uwchradd. Yn yr ardal yma roedd 'na dai newydd neis. Wedi mynd heibio'r Elckerlyck Inn roeddem yn dod yn nes at Eglwys Sint-Antonius a chanol y pentref.

Delw Antwn o'r Aifft, RollegemRoedd 'na ddau fanc yno a rhyw bedwar bar, siop bapur newydd a siop sglodion. Ond fe ges i fy nhynnu tuag at Eglwys Sint-Antonius. Wrth imi fynd heibio'r tro cyntaf roedd y drysau ar gau, ond wedi gwneud cylch-dro rownd y pentref fe gefais fod y drysau wedi'u hagor. Dyma fentro mewn a chael bod dwy wraig yno yn paratoi'r lle ar gyfer y gwasaneth yn y bore pan fydda nifer o blant yn derbyn eu cymun cyntaf. Esboniais (mewn Iseldireg cloff) fy mod yn dod o Gymru a bod gen i ddiddordeb yn yr eglwys. Atebodd hi yn ôl mewn Iseldireg - roeddwn i'n hanner gobeithio y byddai'n troi i'r Saesneg, ond ddim o gwbwl. Felly ymlaen â mi i esbonio'r peth hyn a'r peth arall fel yr oeddwn yn medru. Profiad da iawn o ran siarad Iseldireg a chael derbyniad da. Fe ddechreuais ei cholli wrth holi pam fod Antwn Sant yn cael ei ddarlunio yng nghwmni mochyn!

Erbyn hyn roeddwn i wedi bod yn crwydro am yn agos i ddwy awr o gwmpas y pentref ac roeddwn yn barod am swper. Roedd Guido wedi paratoi gwledd o bysgod ar ein cyfer, ac fe gawsom bwdin pinc i orffen.

Rhagor o luniau o bentref Rollegem.

Yr holl luniau o drydydd diwrnod y gwyliau.