Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-24

Amser cinio

Roedd amser cinio yn ddifyr yn y gwaith heddiw - cael cwmni y ddau CG a DJP. Roedd CGr yn adrodd ei hanes yn mynd lawr i Galfaria, Login ar gyfer y Gymanfa Bwnc. Roeddwn i wedi'i annog i'w wneud gan fy mod i'n teimlo ei fod yn draddodiad sydd wedi'i anwybyddu o'i gymharu â'r Plygain. Yn fy meddwl i mae hynny'n digwydd am fod cynnwys llafar byrfyfyr iddo na cheir mewn Plygain lle mae pawb yn canu o gopi neu o'r cof, ond nad oes dim byd byrfyfyr yn digwydd. Dwi'n falch fod CGr wedi bod, ond roedd hi'n drist clywed am sut mae'r traddodiad yn dechrau diflannu.

Cawsom sgwrs am Eisteddfod yr Urdd a'r ffaith fod CG a CG yn bwriadu mynd i glywed y cyngerdd Les Miserables yng Nghanolfan y Mileniwm. Fe wnaeth CGr ddweud ei fod yn aros ym Mhenarth dros yr ŵyl a'i fod yn bwriadu teithio i mewn ar y bws dŵr bob bore. Dyna ddifyr.

Troes y sgwrs at Batagonia - presenoldeb CGr mae'n rhaid (!) - ac fe gawsom glywed am frecwast yn y Cynulliad ddoe i lansio llyfr o Batagonia. Dywedodd CGr fod hyn wedi cyd-fynd â chyhoeddiad gan Lywodraeth y Cynulliad ei bod am barhau i ariannu cynllun athrawon Cymraeg y Wladfa.

O.N. Mae camgymeriad ar wefan y Cynulliad (!) dyma'r cyfeiriad ar gyfer gwybod mwy am y llyfr a gafodd ei lansio yno, www.rockytrip.com.