
Y peth cyntaf welsom ni oedd dynion yn chwarae pêl-foli y traeth reit yng nghanol y ddinas ar y sgwâr ger Neuadd y Ddinas a'r Belfort. Roedd tunelli o dywod wedi'u symud i'r fan er mwyn galluogi'r gemau fynd yn eu blaenau. Ond doeddwn i ddim wedi dod i Gent i wylio pêl-foli, roeddem ni - neu o leiaf rhai ohonom ni - am grwydro'r ddinas i weld beth oedd i'w weld yno. Bant â ni i'r Koren Markt, un o sgwariau Gent lle mae 'na gaffi ar ôl caffi ar ôl caffi. Gadewais RO, Dr HW a DML mewn caffi a mynd i grwydro a cheisio defnyddio ychydig Iseldireg fan hyn a fan draw.

Wedi cerdded ar hyd yr afon unwaith eto, ac ar hyd y brif stryd siopa, dyma ni'n cael ein hunain unwaith eto mewn caffi. Ond roedd hwn yn gaffi ychydig yn wahanol - caffi Llydewig Gwenola. Roedd yn ymddangos yn boblogaidd iawn. Wedi treulio amser yno yr oedd hi'n bryd inni fynd am y trên ac yn ôl i Kortrijk. Ar y tram unwaith eto - roedd RO, DML a finnau wedi prynu tocyn ymlaen llaw, ond roedd yn rhaid i Dr HW brynu un gan yrrwr y tram ac fe'n gwahanwyd hyd nes inni gyrraedd gorsaf Sint-Pieters.
Roeddem yn ôl yn Kortrijk yn gymharol ddidrafferth ac yn ôl yn Rollegem cyn pen dim. Nid oeddem wedi gwneud cymaint â ddoe, ond ar ôl gwneud cymaint o gwmpas Ieper roedd jyst eistedd o gwmpas yn hamddena yn syniad da iawn heddiw.
Rhagor o luniau o Gent.