
Fe'i comisynwyd gan Elisabeth Borluut, gwraig Joost Vijdts a oedd yn un o brif ddinasyddion dinas Gent ar y pryd. Mae yn baentiad sy'n llawn sumbolau crefyddol, ond sydd hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd y diwydiant gwlân a defnydd ym mywyd Gent ar y pryd.
Wedi edrych o gwmpas yr eglwys gadeiriol - ac mae llawer o drysorau yno lle nad oes raid ichi dalu o gwbl - fe aethon ni i mewn i un o'r capeli i weld y llun ei hun. Roedd yn rhaid talu, ond nid oes unrhyw amheuaeth fod gweld y llun yn werth pob euro. Mae'n rhyfeddol, nid oes unrhyw atgyhyrchiad dwi wedi'i weld sydd wedi medru gwneud chwarae teg gyda'r lliwiau yn y darlun, yn arbennig felly glas gwisg Mair Mam ein Harglwydd.
Am ragor o wybodaeth am Eglwys Gadeiriol Sint-Baaf.
Am ragor o wybodaeth am Oen Duw gan Jan a Hubert van Eyck.
Rhagor o luniau o Eglwys Gadeiriol Sint-Baaf, Gent.