Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-22

Y daith i Fflandrys - dydd Sadwrn (13)

Mynd i Gent

Gweithiwr yn iwnifform NMBS, cwmni trên Gwlad BelgRoedd yr antur yn parhau heddiw wrth inni fynd i Gent. Penderfynwyd y buasai'n syniad da i roi hoe i RO o yrru'r car a mynd i'r gogledd ar y trên o orsaf Kortrijk. Roedd hi'n weddol hawdd cyrraedd gorsaf Gent yn y car a phrynu tocynnau trwy gyfrwng yr Iseldireg. Yna hoe yng nghaffi'r orsaf cyn mynd ar y trên. Roedd y daith i Gent yn cymryd rhyw hanner awr ac ar ôl cyrraedd byddai'n rhaid cymryd tram i ganol y ddinas o'r orsaf reilffordd.

Roedd yn daith yn gwbl ddidrafferth ac o fewn rhyw hanner awr roedden ni yng ngorsaf Sint-Pieters, prif orsaf Gent. Roedd hi'n ychydig yn fwy anodd dod o hyd i'r tram i fynd â ni i ganol y ddinas. Yn y diwedd fe gafwyd un, ond ni wnaeth gyrraedd y canol am ryw reswm neu'i gilydd a dyma ni'n cerdded gweddill y ffordd. Ar ein ffordd fe aethon drwy'r Bloemen Markt a chymryd coffi mewn caffi yno, ac yna ymlaen i brif nod ein hymweliad â'r ddinas, sef i weld llun enwog Jan van Eyck yn Eglwys Gaderiol Sint-Baaf.

Rhagor o wybodaeth am reilffyrdd Fflandrys a Gwlad Belg.