Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-22

Penwythnos tawel

Bu'n benwythnos tawel ar y cyfan. Yr unig gyffro oedd cystadleuaeth cân Eurovision o Kiyv yn yr Ŵcrain nos Sadwrn. Ers yn blentyn bu'r sioe yma yn arbennig imi. Bellach dwi'n ei gwylio er mwyn bod yn dyst i gywilyddio blynyddol cystadleuydd y Deyrnas Gyfunol – doedd eleni dim gwahanol. Mae erthygl yn y rhifyn cyfredol o'r New Statesman gan Tim Luscombe sy'n trafod y peth yn ddifyr iawn. Dyma flas o'r ddau baragraff olaf yr erthygl:
In Eurovision, Monaco is as powerful as Germany, Andorra has as much leverage as the UK. Suddenly the map of Europe looks very different. That Wogan kept hearing the names of Balkan countries in 2004 confused and upset him. I think it actually enraged him. As it happens, these countries did not club together to destroy Wogan's Eurovision dream. Only one Balkan country made it into the top six. Yet the political topography of Europe (and Eurovision) has changed. The centre has moved east. And some people are scared of that. Wogan voiced these fears. "It's getting worse," he cried. No, it's not. It's getting different. Britain's is at last realising its rightful size in Europe as one of many, many states.

Eurovision has a wide appeal - to the young, the old, the dateless. We love the indiscriminate flag-waving and wonderful array of European politics. It's time we had a commentator who wasn't scared by recent political developments; someone who doesn't laugh at foreigners getting English a bit wrong, or debase everyone else when "we" don't win. Who cares who wins? Welcome to the new Europe!
Fore Sul roeddwn yn pregethu yng Nghapel Seion gyda'r Presbyteriaid. Daeth JM i fy 'nôl i am ryw 9.40am a mynd â fi mas ar gyfer cwrdd 10.00am. Cefais groeso ardderchog fel arfer gan y gynulleidfa yno. Maen nhw wastad fel 'na, ac ar y diwedd cefais goffi a bisgedi. Diolch!

Amser cinio fe wnes i fy nghinio fy hun yn y fflat. Mae cyfnod Tŵr y Cloc wedi dod i ben. Fe aeth rhai o'r lleill i gael cinio yng Ngwesty'r Marine. Galwodd RO heibio wedi cinio ac fe gafwyd sgwrs ddifyr fel arfer, er iddi droi at wleidyddiaeth fel arfer hefyd a mynd ar hyd ambell i hen drywydd.

Yn y nos roedd gwasanaeth conffyrmasiwn yn Eglwys y Drindod, ond pan ddaeth yr amser i fynd mas yr oedd hi'n bwrw glaw yn ofnadwy o drwm ac fe benderfynais i beidio â mentro allan. Felly bum yn gwrando ar gerddoriaeth - Arvo Pärt, Guy Ropartz a Herbert Howells. Ffordd dda o dreulio peth amser.