Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-31

Y daith i Fflandrys - dydd Llun (29)

Cyrraedd Tombroek/Tombrouck

Fel y dywedais mae'r ffin ieithyddol yn rhedeg reit trwy ganol pentref Tombroek, felly rhaid oedd mynd yno er mwyn cael tynnu lluniau o'r ffin ieithyddol. Rydych chi'n gwybod fod ffrindiau yn ffrindiau pan eu bod yn fodlon aberthu eu hunain a sefyll ar ffin ieithyddol am 9.00am. Fel y gwelwch o'r map mae'r ffin yn rhedeg ar hyd Candelstraat, yn torri Tombroekstraat yn ei hanner ac ymlaen ar hyd Rue Robert Spiriet. Felly byddai sefyll ar gornel Tombroekstraat a Candelstraat ar ffin Rollegem yn ein gosod ar y ffin ieithyddol, a dyna lle safodd RO, Dr HW a DML.

DML, Dr HW ac RO ar y ffin ieithyddol yn TombroekNid yw hi'n llawer i'w edrych arni, ond i mi dyma un o uchafbwyntiau mwyaf gwefreiddiol y daith, yn fy atgoffa o'r holl droeon yr oeddem ni'n croesi'r ffin ieithyddol yn Sir Benfro wrth fynd a dod i Hwlffordd neu Arberth slawr dydd. Wrth fynd i'r gwaith neu i weld y doctor, neu hyd yn oed i siopa yn ein Siop Spar leol roedd yn rhaid croesi'r ffin ieithyddol, a symud o un byd i'r byd arall. Er iddi gael ei herydu ddirfawr yn ddiweddar, mae'n dal i roi ryw wefr ifi. Fel y ffin weinyddol rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yr oeddem yn ei chroesi'n feunyddiol a'r lle a'r enw rhyfeddol Bwlch y ddwy sir nid nepell o'r "ddau gae" enwog. I eraill nid yw'n ddim mwy na llinell wen ar ganol y ffordd neu llinell dorredig ar fap!

Rhagor o luniau o'r ffin ieithyddol yn Tombroek.