Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-19

Y daith i Fflandrys - dydd Iau (3)

Cyrraedd Rollegem

Y mynediad i bentref Rollegem, FflandrysWedi teithio yr holl filltiroedd roedd y kilometrau olaf yn ymddangos yn rhai hirion iawn. Roedd hi fel petai Napoleone wedi estyn y filltir i greu kilometr yn hytrach na'i chwtogi. Ond yn raddol bach yr oeddwn yn dod yn nes – troi oddi ar draffordd i briffordd, ac oddi ar briffordd i ffordd gyffredin, gadael y dinasoedd am y trefi a'r trefi am y pentrefi. Cyn bod hir dyma weld arwydd "Rollegem 2km". Roeddem yn agos i'n nod. Ond hyd yn oed wedi cyrraedd Rollegem doedd pethau ddim yn gwbl hawdd wedyn gan fod y strydoedd yn ymddangos fel petaent yn plygu yn y canol! Ond o'r diwedd fe sylwodd RO ar arwydd Elckerlyck Inn wrth yr eglwys a dyma droi ar hyd y stryd a chyrraedd y gwesty.

Gwesty Elckerlyck Inn

Gwesty Elckerlyck Inn, RollegemRoedd yn edrych yn gywir fel yr oeddwn wedi'i ddychmygu oherwydd y lluniau ar y wefan. Dyma stopio tu fas a mynd i mewn i'r bar. Pawb yn troi i edrych a dyma fi yn mentro siarad mewn Iseldireg gyda'r fenyw tu ôl i'r bar - "Gode avond. Ik ben Dogfael van Wales en ik hebbe twee kameren gereserveit voor vijf nachts voor vier mensen. Ik will grag praten met Guido Denutte." (=Noswaith dda. Fi yw Dogfael o Gymru a dwi wedi archebu dwy ystafell bum noson i bedwar. Hoffwn siarad a Gudio Denutte os gwelwch yn dda.) A dyma hi yn dweud ei fod e allan yn y cefn, ac felly mas â fi a'r lleill ar fy ôl a chyfarfod gyda Gudio a oedd yn codi pabell yn yr ardd gefn. (Byddaf yn esbonio pam eto).

DML yn gorffwysWedi croeso cynnes dyma ein tywys i'n hystafelloedd. O'r diwedd dyma ni wedi cyrraedd go iawn a medru ymlacio am ychydig. Roedd hi'n rhyw 7.15pm ac fe addawodd Guido y byddai swper yn barod erbyn 8.00pm.

Pentref bychan ar gyrio dinas fawr Kortrijk yw Rollegem. Mae rhyw 3,000 yn byw yno, ond yn ymyl 75,000 Kortrijk ei hun mae'n gymharol fychan. Yng nghanol y pentref saif eglwys fawr Sint-Antonius, neuadd y plwyf (Parochiecentrum), dau fanc, tair neu bedair siop (gan gynnwys Spar), tri neu bedwar bar, ac un frituur (siop jips).

Swper ac ymlacio

Swper nos Iau 2005-05-12Am 8.00pm dyma fynd i'r ystafell fwyta, y tŷ bwyta y drws nesa i'r bar i gael ein swper. Cawl tomato a llysiau i gychwyn, ac yna stecen gyda salad a sglodion. A chyn mynd i'r gwely dyma ychydig o'r cwrw poblogaidd Jupiler i'w yfed.

Yn ôl â ni i'r ystafelloedd gwely wedyn - roeddwn i'n rhannu gyda DML, a RO yn rhannu gyda Dr HW. Roedd Dafydd wedi mynd i gysgu yn weddol gyflym. Ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fyd mod yn rhy gyffrous i gysgu'n syth ac felly dyma gyfle i wylio ychydig o deledu Iseldireg Fflandrys - VRT één. Ac fel mae'n digwydd rhaglen newyddion oedd ymlaen a'r penawdau yn sôn am broblemau ieithyddol Brussel-Halle-Vilvoorde sy'n mynd i fod yn destun pledlais o hyder yn y llywodraeth ffederal yn y bore. A wedyn fe es i gysgu.

Holl luniau diwrnod cyntaf y gwyliau.