Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-19

Y daith i Fflandrys - dydd Iau (2)

Eurostar a thrwy'r twnel

Gadael gorsaf Waterloo InternationalRoedd y profiad o fynd drwy'r twnel ar yr Eurostar yn un rhyfedd. Roedd yn gywir fel mynd trwy dwnel(!), ond fod hynny'n cymryd 20 munud yn hytrach nag 20 eiliad. Doedd dim llawer o gyffro ar y trên wrth inni fynd i mewn i'r twnel - mae'n rhaid fod y rhan fwyaf yn gwneud y trip pob dydd - ond roeddwn i wedi fy nghyffroi. Yr unig beth ddigwyddod mewn gwirionedd oedd cyhoeddiad gan reolwr y trên yn dweud beth fyddai hyd y daith drwy'r twnel ac yn atgoffa pawb fod angen iddyn nhw newid yr amser ar eu watsys drwy eu troi ymlaen awr. A dyna ni, dyna'r holl gyffro a welwyd.

Lille

Opel MerivaWrth ddod allan o'r twnel i Ffrainc doedd pethau ddim yn edrych yn rhy wahanol. Ond yn raddol roedd pethau'n newid y tai, y ceir, y tirwedd, wrth inni brysuro (a dwi'n meddwl prysuro) ar y trên am ddinas Lille yn Fflandrys Ffrainc. Yn Lille roeddem yn ymadael â'r trên er mwyn casglu ein car hur a gyrru i Rollegem. Wrth gwrs, mae hynny'n swnio'n llawer haws nag yw e mewn gwirionedd - mae gyrru ar y dde, mewn dinas a gwlad nad ydych yn eu hadnabod yn iawn mewn ardal gyda mwy o draffyrdd a phriffyrdd nag unrhyw le arall yn Ewrop bron, yn swnio'n fwy agos ati. Ond roedd RO yn ddewr a bant â ni yn ein Hopel Meriva am Rollegem.

O Lille i gyfeiriad Kortrijk

Dyw e ddim yn edrych yn llawer ar y map, a dim ond 20km oedd y daith i gyd, ond roedd hi'n daith ofnadwy i'w gwneud yn syth o'r trên heb brofiad o'r blaen ar draffyrdd Gwlad Belg a Ffrainc. Dyw e ddim yn llawer o help chwaith fod gan y traffyrdd o leia ddau rif - un lleol ac un Ewropeaidd a bod y rhifau lleol yn newid wrth groesi'r ffin wrth gwrs. Roedd y lonydd yn llawn traffig a hithau'n ddydd Gwener cyn gŵyl y banc drannoeth a phawb yn ceisio dianc am benwythnos hir yn y dull cyfandirol. O'r diwedd dyma gyrraedd darn o darffordd nad oedd dan ei sang, a medru edrych ar yr arwyddion a dewis lôn heb gael ein gorfodi i wneud hynny gan y llif. Roedd hi'n adeg o densiwn a phwysedd a dwi'n ofni imi weiddi'n siarp ar un o'r criw i fod yn dawel wrth imi geisio tywys RO drwy'r cyfan - diolch byth na welodd y chwith gan estyn imi gyffyrddiad o affirmadiad yn ddiweddarach yn y nos.

Wrth yrru ar y draffordd o Lille i gyfeiriad Kortrijk yn Fflandrys fe welir un o'r sumbolau mwyaf pwerus o'r ffiniau sydd wedi diflannu yn sgil yr "undod" sy'n deillio o'r Undeb Ewropeaidd ac yn arbennig Cytundeb Schengen i gytuno ar ffin gyffredin, sef rhesi o gabannau gwag lle'r arferai'r swyddogion y ffiniau eisted yn gwirio trwydded teithio pawb oedd yn teithio ar hyd y ffordd. Erbyn heddiw y cyfan sydd raid ei wneud wrth groesi'r ffin yw arafu ryw ychydig.

O'r diwedd dyma gyrraedd gwladwriaeth Gwlad Belg a thir a daear Fflandrys. Welkom in Vlaanderen!