Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-20

Y daith i Fflandrys - dydd Gwener (4)

Bore cyntaf yn Rollegem

Brecwast 2005-05-14Dwi'n ei chael hi'n anodd i gysgu mewn gwely dieithr y noson gyntaf. Roeddwn i'n arfer dioddef o'r fogfa ac mewn gwelyau dieithr mae hi fel petai'r fogfa yn dod yn ôl ac fe fyddaf yn cael rhyw bwl tynn yn fy mrest. Felly dyma godi'n gynnar fore Gwener. Doedd y ffaith fy mod wedi cynhyrfu cymaint gan y daith ddim yn help i wneud imi eisiau cysgu. Na roeddwn i'n barod am y bore, am fy mrecwast ac am y daith i weld bedd Hedd Wyn.

Brecwast

Roedd y brecwast yng Ngwesty Elckerlyck Inn yn wledd o gig, caws, salami, bara, croissants, jam, iogwrt, cacen sinsir a mêl. Roedd yn ffordd wych o gychwyn y diwrnod pan roeddem yn gwybod ein bod yn mynd i fod yn teithio ac yn teithio ac yn teithio.

I Ieper

Stadhuis, IeperEin nod cyntaf oedd cyrraedd Ieper (neu Ypres yn Ffrangeg) - dinas a ddinistriwyd bron yn llwyr yn ystod Rhyfel Byd 1914-1918. Mae'n rhyw 40km o Rollegem i Ieper, gyda thraffordd llawer o'r ffordd. Roedd pethau'n well y bore 'ma o gymharu â'r noson cynt. Roedd dal i fod llawer o draffig ar y ffyrdd, ond ar ôl gadael cyrion Kortrijk roedd pethau llawer yn well. A chyn bo hir yr oeddem wedi cyrraedd cyrion y ddinas. Mae'r holl adeiladau sy'n edrych fel petaent yn dyddio yn ôl i'r Canol Oesoedd i gyd yn perthyn i'r ugeinfed ganrif. Er enghraifft fe ailadeiladwyd y Neuadd Ddefnydd rhwng y 1920au a'r 1960au ac mae'n edrych yn wych heddiw. Ond roedd yn rhaid ailadeiladu oherwydd fod y cyfan wedi'i ddinistro gaan y rhyfela. Gwelodd ardal Ieper ymladd mwyaf ofnadwy'r holl ryfel, ymladd a oedd yn gyfrifol am ladd degau o filoedd o filwyr. Yn eu plith yr oedd E. H Evans, neu Hedd Wyn.

Rhagor o luniau o ddinas Ieper.