
Gadael Aberystwyth
Cychwynodd y cyfan yn fore wrth inni ddal y trên 7.30am o Aberystwyth i Birmingham ac yna ymlaen i Euston yn Llundain. Roeddwn wedi archebu'r tocynnau ymlaen llaw drwy wefan Virgin Trains - dyna'r tro cyntaf imi wneud. Archebais y tocynnau yn ôn ym mis Chwefror, ond dim ond wythnos cyn y teithio y daethant. Roeddwn i wedi archebu'r tocynnau ar gyfer yr Eurostar yr un pryd ond yr oedd y drefn yn wahanol yno gan ei bod yn rhaid casglu'r tocynnau ar y dydd o ryw beiriannau hunan-wasanaeth.
Roeddwn i wedi gwneud yn siŵr fod pawb wedi cwblhau ffurflen E111 rhag ofn y buasai angen gwasanaeth meddygol yng Ngwlad Belg. Y bore wrth inni fynd doedd dim sôn amdani yn unman! Bu RO cyn garediced â chynnig lifft i DML a finnau i'r orsaf, ac ar y ffordd y cofiais i fod fy ffurflen E111 ddim gen i. Bu RO cystal â mynd â fi yn ôl i'r fflat i'w 'nôl, ond methais yn deg â dod o hyd iddi. Felly roeddwn i mewn ychydig o banic wrth gychwyn ar y daith. Bu'r cyfiellion yn affirmadol iawn a gwneud imi deimlo'n well.
Birmigham a Waterloo

Nawr roedd clwyd newydd i'w chlirio - cael y tocynnau allan o'r peiriannau hunan-wasanaeth. Doedd dim esboniad clir iawn ar sut i wneud hynny, a doedd pethau ddim yn haws wrth imi gael cynulleidfa o dri yn edrych dros fy ysgwydd ar bob symudiad! Yn y diwedd fe lwyddais i gael y peiriant i chwydu y tocynnau mas a chyda nhw yn saff yn fy llaw dyma gael paned a rhywbeth i'w fwyta cyn mentro am y trên.