
Mae gen i hanes i'w adrodd ac fe fyddaf yn ei adrodd yn fanwl dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf - teithio ar y trên o dan Fôr Udd, nafigadu i RO wrth iddo yrru, teithio ar y trên i Frwsel, cyfarfod ag un o fandarinau'r ddinas honno.
Wrth gwrs y profiad gorau oll oedd medru defnyddio'r ychydig Iseldireg sydd gen mewn siopau, amgueddfeydd, eglwysi, bariau, a phob man. Yr uchafbwyntiau oedd yr adegau pan nad oedd pobol yn troi i'r Saesneg ac yn deall beth roeddwn i wedi'i ddweud yn iawn!
Gyda llaw mae'r llun yn hunan-bortread wrth fynd drwy twnel Môr Udd ar drên Eurostar.