
Ar drywydd Hedd Wyn eto

Ar ôl galw yn Eglwys Onze-Lieve-Vrouw Poekapelle lle'r oedd plant yn paratoi ar gyfer eu cymun cyntaf fe aethom yn ôl i gyfeiriad Langemark a chael ein hunain yn yr unig far oedd ar agor yn yfed coffi ac yn holi am y gofeb i Hedd Wyn. Roedd y dyn tu ôl i'r bar yn gwybod am y gofeb yn iawn a cheisiodd esbonio inni mewn Iseldireg a Ffrangeg sut i ddod o hyd i'r lle. Bant â ni, ond cael ein hunain ar goll unwaith eto. Holi gwraig ar y stryd, a hithau'n cynnig troi i Ffrangeg eto - mae'n rhaid taw y ffaith ein bod yn gyrru car Ffrengig oedd y rheswm yn hytrach na safon fy Iseldireg! Roedd pawb yn dweud ei fod yn agos i Glwb Caracas ar y ffordd fawr. Ac o'r diwedd daethom o hyd iddo.
Mae'r gofeb yma oherwydd brwdfrydedd un dyn, sef Lieven Dehandschutter, awdur Hedd Wyn 1887-1917 : Een Welshe tragedie in Vlaanderen : Trasiedi Cymreig yn Fflandrys : A Welsh tragedy in Flanders (1992), sydd erbyn hyn yn ei bumed argraffiad. Mae Dehandschutter yn gyfreithiwr ac yn wleidydd mewn plaid Fflandrysaidd Nieuw-Vlaamse Alliantie (N-VA).
Rhagor o luniau o gofeb a bedd Hedd Wyn.