
Mae hon yn fynwent sy'n wahanol iawn i'r rhai Prydeinig, ond yn arbennig o drawiadol. Yma du ac nid gwyn yw'r meini coffa, ac mae'r fynwent yn frith o goed deri. Yn raddol dros y blynyddoedd datblygodd mynwet Almaenaidd Langemark i fod yn brif ffocws ar gyfer yr Almaenwyr yn cofio lladdedigion Rhyfel Byd 1914-1918. Heddiw cofir neu fe gladdwyd 44,234 o filwyr yno. Mae'r lle yn edrych yn gymharol wag i gychwyn gyda'r cofebau ar y llawr yn hytrach na'n sefyll i fyny. Wrth fynd i mewn drwy'r fynedfa fe welir rhyw ugain darn enfawr o lithfaen, a dim ond yn raddol yr ydych yn sylweddoli fod enwau cannoedd o filwyr wedi'i cerfio ar bob carreg.

Yma o dan y coed y daethpwyd o hyd i'r tawlewch a'i llonyddwch hwnnw y buasech yn ei ddisgwyl mewn mynwent. Yma hefyd y gwelais y gofeb fwyaf drawiadol, sef codelan gul yn arwain at groes dywyll.
May o wybodaeth am fynwent y milwyr o'r Almaen, Langemark.
Rhagor o luniau o fynwent y milwyr o'r Almaen, Langemark.