Mwy o gofebau
Nid nepell o Fynwent Artillery Wood saif cofeb i'r bardd Gwyddelig Francis Ledwige a gladdwyd yn y fynwent. Uwch y gofeb iddo yntau mae baner drilliw Iwerddon yn chwifio'n braf. Lladdwyd Ledwidge yr un diwrnod â Hedd Wyn, 31 Gorffennaf 1917. Er bod Ledwidge yn genedlaetholwr fe listiodd ym Myddin Prydain gan gredu y byddai hynny yn dod â rhyddid i Iwerddon. Wedi'i anafu yn ystod y brwydro fe glywodd mewn ysbyty ym Manceinion am Wrthryfel y Pasg yn Nulyn ac am ddienyddio'r arweinwyr ac fe luniodd farwnad enwog i'w gyfaill Thomas McDonagh, un o'r arweinwyr hynny.
Nid oes dim sy'n adlewyrchu trasiedi Rhyfel 1914-1918 yn fwy na'r ffaith fod dau fardd yn gorwedd yma mewn mynwent filwrol yn Fflandrys o ganlyniad i ymladd dros ryddid nad oedd yn eu cynnwys hwy o gwbl.
Rhagor o wybodaeth am Francis Ledwidge.
Carrrefour des Roses
I ychwanegu at dristwch y darn hwn o faes y gad yn Fflandrys wrth y tro i fynwent Artillery Wood ceir cofeb arall - cofeb i gofio'r Llydawyr a'r dynion o Normandi a gollwyd y tro hwn. Saif y gofeb lai na 500 metr o'r fynwent. Mae'r gofeb yn drawiadol am ei bod ar ffurf croes Calfaria sydd mor nodweddiadol o Lydaw. Ger y groes ceir dolmen, neu gromlech, sydd hefyd yn nodweddiadol o Lydaw. I'r sawl sy'n gyfarwydd â hanes perthynas y wladwriaeth Ffrengig â diwylliant ac iaith Llydaw mae eironi'r gofeb yn llawn chwerwder - dyma ddefnyddio delweddau mwyaf eiconig y wlad a'u gwyrdroi. Yn union yr un fodd yn Llydaw ei hun yr unig ddefnydd "swyddogol" o'r Lydaweg oedd ar y cofebau rhyfel niferus ym mhentrefi Llydaw Isaf.
Rhagor o luniau o Carrefour des Roses.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.