Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-21

Y daith i Fflandrys - dydd Gwener (7)

Tuag at Boezinge

Mynwent Artillery Wood, ger BoezingeMynwent Essex Farm fyddai'r cyntaf o nifer o fynwentydd ar y daith heddiw. O Ieper dyma wneud ein ffordd tuag at Boezinge ac yn nes at fedd Hedd Wyn. Mae yntau wedi'i gladdu ym Mynwet Artillery Wood i'r dwyrain o bentref Boezinge.

Taith o ryw 7km yw hi o Ieper i Boezinge, ac wrth droi oddi ar y ffordd fawr i gyfeiriad Pilkem a Langemark mae'n llawer tawelach. Prin bod car yn gyrru heibio inni yn wahanol i'r llif cyson ar y briffordd. Roedd y gwynt yn chwythu'n gryf wrth inni geisio chwilio am Fynwent Artillery Wood. Fe aethom heibio i'r troad y tro cyntaf a chael ein hunain yn Pilkem. Cafodd Hedd Wyn ei ladd mewn ymosodiad ar Gefn Pilkem, ond wrth edrych o gwmpas ar y gwastadedd o'n cwmpas doedd dim sôn am gefnen o unrhyw fath yn un man. Dyma droi 'nôl yn Pilkem i fynd i edrych unwaith eto am Fynwent Artillery Wood, a'r tro hwn dyma ei chael.

Mynwent Artillery Wood

Gyferbyn â'r fynedfa mae dau dŷ cymharol newydd yn sefyll. Mae'n fy synnu i eu bod wedi cael caniatâd ar eu cyfer, ond efallai fod awdurdod cynllunio West-Vlaanderen wedi derbyn peth cyngor gan Geredigion!

Bedd Hedd Wyn, Mynwent Artillery Wood, ger BoezingeCladdwyd neu fe nodwyd enwau 1,307 o laddedigion Rhyfel Byd 1914-1918 yn y fynwent. Nifer ohonynt wedi marw yn y brwydro a fu o gwmpas camlas IJzer yn ardal Boezinge wrth i'r Almaenwyr gael eu gwthio yn ôl am Artillery Wood ym mrwydr Cefn Pilkem fis Gorffennaf 1917. Yn y frwydr honno y lladdwyd Hedd Wyn, neu E. H. Evans, ac yn y fynwent hon mae ei fedd yntau. Daethpwyd o hyd i'w fedd yn gymharol ddidrafferth gan fod cofrestr o'r holl feddau i'w chael yng nghadw mewn cwpwrdd yn y fynedfa i bob mynwent. Ac wrth ddod at ei fedd roedd yn siom mewn ffordd o siarad ei fod yn debyg i bob bedd yn y fynwent hon a phob mynwent arall y byddwn yn ymweld â hi yn ystod ein taith.

Eto i gyd roedd 'na arwyddocâd i'r fan ac i'r hyn oedd yng nghlwm wrth y man. Cefais fy llenwi ag emosiwn wrth ystyried beth oedd y sefyllfa yn ei gynrychioli neu'n ei feddwl - ymerodraeth a glwedydd bach, y llywodraethwyr a'r werin, cyfoethog a thlawd, rhyddid a gormes, rhyfel a heddwch. Roeddwn yn barod i wylo, ac fe ddylwn i fod wedi bod yn fwy agored am y teimladau. Ond eu cadw i fi fy hun a wnes i. Roedd DML yn fwy parod i oedi uwch y bedd a darllen peth o waith bardd. Roedd y gwynt yn chwythu drwy'r fynwent yn oer, a bu hynny'n drech na Dr HW a aeth yn ôl i'r car gysgodi. Ond aros ac aros wnaeth y gweddill ohonom. Er i'r fynwent edrych yn debyg i bob un arall, roedd presenoldeb bedd Hedd Wyn yma yn gwneud y lle yn wahanol. Roedd hi'n werth dod i'r lle ac aros yno am dipyn.

Rhagor o luniau o Fynwent Artillery Wood a bedd Hedd Wyn.