Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-21

Y daith i Fflandrys - dydd Gwener (6)

Mynwent Essex Wood

Mynwent Essex Farm, IeperAr gyrion dinas Ieper mae un o'r aml fynwentydd sy'n brithio tirwedd didostur o fflat Fflandrys, neu o leiaf yr ardal o gwmpas Ieper lle bu cymaint o ymladd yn ystod Rhyfel Byd 1914-1918. Yma y mae Mynwent Essex Wood. Mae'r fynwent yn un "boblogaidd" gan ei bod yn agos iawn i'r ddinas a chan taw yma yr ysgrtifennodd y Canadiad John McCrae y gerdd In Flanders fields.

Os ydych chi'n chwilio am fan tawel i fyfyfrio ar drasiedi Rhyfel Byd 1914-1918 fe ddylech fynd yn bell o Fynwent Essex Farm. Mae ar ochr priffordd brysur a phan roeddwn i yno roedd rhyw bum bysiaid o fyfyrwyr ysgol o Loegr yno yn dilyn trywydd y rhyfel. Gyda chymaint â hynny o bobl o gwmpas mae'n anodd cael tawelwch. Roedd y myfyrwyr yn ymddwyn yn iawn, ond roedd yr athrawon yn eu dysgu ac yn eu harwain o gwmpas, ac roedd y lle yn swnio fel ffair.

Buwch ger y gamlas, Mynwent Essex Farm, IeperOnd o grwydro ychydig o'r fynwent ei hun ar lwybr oedd yn arwain at gamlas IJser roedd y tawelwch i'w deimlo. Ac yng nghwmi y gwartheg a RO a DML fe wnaeth maint trasiedi'r dynion ifainc a laddwyd yn Rhyfel Byd 1914-1918 ddechrau effeithio arna i. Dwi ddim yn berson calon galed, ond byddai angen ichi fod yn galon galed iawn iawn i beidio ag ymdeimlo â hynny hyd yn oed yn ffair Mynwent Essex Farm. I ddweud y gwir efallai taw presenoldeb yr holl bobol ifainc oedd yn codi'r teimladau hyn, gan taw rhai o'r un oed â hwy oedd wedi'u lladd yma bron i ganrif yn ôl. Wrth grwydro o fynwent i fynwent cynyddu wnaeth y teimladau hyn.

Roedd 'na rai golgyfeydd yn y fynwent yn ddigon i wneud i rywun chwerthin hefyd. Roedd 'na un athro gwrywaidd yn arwain grŵp o ryw bump ar hugain o fyfyrwyr ysgol benywaidd. Mae'n siŵr eu bod yn dod o ysgol i ferched rywle ac roedd y brwdfrydedd heintus oedd yn amlwg ar wyneb yr athro yn cael ei adlewyrchu yn y diflastod heintus ar wyneb ei fyfyrwyr. Mae'n amlwg ei fod wedi medru mynd â'r cesyg at y ffynnon, ond roedd e'n methu'n deg â gwneud iddyn nhw yfed.

Rhagor o luniau o Fynwent Essex Wood, Ieper.

John McCrae

Cofeb i John McCrae, Mynwent Essex Farm, IeperRoedd McCrae yn gwasanaethu fel llawfeddyg ar faes y gad gyda byddin Canada pan ysgrifennodd y gerdd In Flanders field. Yr oedd yn gweithio yn yr orsaf lle'r oedd cleifion yn cael eu trin ar lan camlas IJser sy'n llifo'r tu ôl i fynwent Essex Farm fis Mai 1915 pan gyfansoddodd y gerdd. Bu farw McCrae yn ystod y rhyfel ond o pneumonia a'i gladdu yn Wimereux, Ffrainc, fis Ionawr 1918.

Cofir y gerdd yn bennaf am y cysylltiad a wneir ynddi â'r pabi coch sy'n tyfu ar feysydd Fflandrys hyd yn oed heddiw.
In Flanders fields the poppies blow
Between the crosses, row on row,
That mark our place; and in the sky
The larks, still bravely singing, fly
Scarce heard amid the guns below.

Rhagor o wybodaeth am John McCrae