
Wedi dod mewn i'r ddinas roedd yn rhaid chwilio am le i barcio a fe wnethon ni weld lle ar ochr y stryd o flaen eglwys Sint-Pieterskerk. Roedd yn rhaid i RO brynu potelaid o Sprite mewn siop gyfagos er mwyn cael newid i roi yn y peiriant parcio. Wedyn cerdded i mewn i ganol y ddinas. Fe wnes i fynd i chwilio am fanc er mwyn medru tynnu arian allan o dwll yn y wal ac fe waneth y gweddill gael coffi mewn un o'r caffis yn y Grote Markt. Wedi cael hyd i fanc a chael arian fe benderfynwyd ein bod yn mynd i fynd i chwilio am fedd Hedd Wyn yn syth, ond fe gefais gyfle i daro mewn i gangen o gadwyn siopau lyfrau Standaard Boekhandel a gweld y cyfieithiad newydd o'r Beibl i Iseldireg yr oeddwn am brynu i fi fy hun fel anghreg arbennig i gofio am y daith.
Rhagor o luniau o'r ail ddiwrnod.