Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-22

Y daith i Fflandrys - dydd Gwener (12)

Ieper a Rollegem

Swper 2005-05-13Mae'n anodd credu ei bod yn bosib gwneud cymaint o bethau mewn un diwrnod. Nid oedd pethau ar ben eto chwaith. Fe aethon ni yn ôl i Ieper gan feddwl aros yno i glywed canu'r Last post wrth y Menenpoort am 8.00pm. Ond mae'n rhaid ein bod ni wedi blino gan inni benderfynu yn y pendraw mynd yn ôl am Rollegem a gorffwystra'r gwesty. Ond cyn mynd fe wnes i alw yn y siop lyfrau Standaard yn Grote Markt a phrynu copi o'r cyfieithiad newydd o'r Beibl i'r Iseldireg, cyfiethiad sydd wedi gwerthu fel slecs ers ei gyhoeddi llynedd. Roedd y fersiwn Pabyddol ar werth yn y siop - dyna fyddai fy anrheg i fi fy hun ar y daith hon.

Wedyn yn ôl ar y draffordd ac am Rollegem. Yn anffodus roedd y draffordd braidd yn gamarweiniol ac fe gawsom ein hunain yn Dottignes a bu'n rhaid inni geisio ein ffordd adref trwy gefn gwlad i Rollegem. Nid oedd hynny'n hawdd, ond beth oedd yn ddiddorol oedd wrth ofyn mewn Iseldireg gwael nad oedd neb llawer yn cynnig newid iaith. O'r diwedd gyda gyrraedd y gwesty a swper ardderchog gan Guido. Gent 'fory.

Holl luniau ail ddiwrnod y gwyliau.