Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-22

Y daith i Fflandrys - dydd Gwener (11)

Mynwent Tyne Cott

Mynwent Tyne Cott, ger PassendaleNid oeddem wedi gorffen ein hymweliadau â mynwentydd eto, roedd un arall i'w gweld, sef Mynwent Tyne Cott. Saif y fynwent hon yn agos i Passendale. Hon yw'r fynwent filwrol fwyaf yng ngofal Comiswn Beddau'r Gymanwlad gyda 11,953 o feddau, yn ychwanegol at hyn mae'r gofeb sydd ym mhen uchaf y fynwent yn rhestru enwau 34,870 sydd heb feddau. Mae'r niferoedd yn rhy uchel i'w hamgyffred yn iawn, gan droi yn rifau oer yn hytrach na phobol sydd wedi marw oherwydd penderfyniad ac awdurdod pobol eraill. Fe wnaeth y pedwar ohonom grwydro drwy'r fynwent hon ar ein pennau ein hunain. Dwi ddim yn gwybod beth roedd pawb arall yn ei feddwl, ond dwi'n gobeithio nad oedd hi'n ormod o ystrydeb i mi feddwl am yr hyn a ddigwyddodd yn Irác ac fe fues i'n meddwl yn arbennig am ymgyrch Reg Keys yn yr etholiad cyffredinol yn erbyn Tony Blair. Wedyn dyma fi'n meddwl am Rose Gentle sydd, fel Reg Keys, wedi colli mab yn rhyfel Irác. Petasai mwy o bobol fel Reg Keys neu Rose Gentle o gwmpas bryd hynny efallai y buasai hanes wedi bod yn wahanol.

Rhagor o luniau o Fynwent Tyne Cott, Passendale.