Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-06

Wynebu'r bore

Wel fe ddaeth y bore, a hynny'n tipyn yn gynt na'r disgwyl. Dwi'n gofidio ar y gorau, ac roedd rhywbeth yng nghefn fy meddwl oedd yn cadw i holi ble mae pleidleisiau Llafur a Cheidwadwyr yn mynd i fynd yng Ngheredigion, ac roedd yr ateb yn cadw i ddod 'nôl "i'r Dem Rhydd". Dwi'n gofidio fel arfer, ond wedi bod yn gofidio'n ofer ond heno roeddwn i'n iawn. Doeddwn i ddim yn meddwl fod pethau'n mynd yn gywir fel dylen nhw, ac eto roeddwn i'n methu'n deg â chyfaddef hynny i fy hunan. Felly am ryw 10.30pm dyma fi'n mynd i fy ngwely, ar ôl cymryd rhywbeth at fy annwyd, ac o fewn dim roeddwn i'n cysgu. Yn sydyn dyma DML yn gweiddi "Rydyn ni wedi colli Ceredigion a Chaerfyrddin". Dyma ddihuno a dyma'r negeseuon testun yn hedfan. Daeth yr un tyngedfenol oddi wrth DMLl yn cadarnhau'r gwaethaf. Colli o ychydig gannoedd!

Roeddwn i'n benderfynol o aros yn y gwely ar ôl hynny a pheidio â chodi a gwneud 'golygfa'. Felly dyma aros yn gwrando ar y tawelwch ac yn syllu i mewn i'r tywyllwch yn ewyllysio cysgu. A chysgu wnes i, hyd nes imi glywed cloch y drws yn canu, a phwy oedd 'na ond RO yn dod â'r newyddion o Aberaeron. Fe godais am ryw 3.00am er mwyn wynebu realiti go iawn a pheidio â bod yn fabi! Ail-fyw'r hyn ddigwyddodd yn y cyfrif yng Ngheredigion, ond wedyn mynd ati i edrych ar ganlyniadau llefydd eraill. Cael ein calonogi gan Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ein llorio gan Ynys Môn. Rhyfeddu at allu Llafur i ddal gafael ar rai seddi, ac yna erbyn rhyw 4.30am neu 4.45am gweld bod Llafur wedi ennill y mwyafrif oedd angen arnyn nhw i ffurfio llywodraeth unwaith eto.

A dyma fi'n penderfynu mynd i'r gwely unwaith eto. Ond cyn mynd dyma droi at y blog i ddweud y peth hyn a'r peth arall. A'r peth arall nawr yw'r gwyliau yng Ngwlad Belg. Wythnos i heddiw fe fyddwn ni yn Rollegem ger Kortrijk yn barod ar gyfer ein hymweliad â Fflandrys. Dwi wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar, dwi'n edrych ymlaen yn fwy eiddgar byth nawr.