Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-05

Diwrnod pleidleisio

2005 002 Dwi weithiau yn poeni fy mod yn busoddi gormod mewn gwleidyddiaeth. Ond wnes i ddim gwneud rhyw lawer iawn neithiwr - dwi wedi cael annwyd ac hynny yn dechrau fy llethu ddoe, ond mae wedi troi yn annwyd go iawn erbyn heddiw. Codi'n gynnar ac i lawr i Neuadd Cadlanciau'r Môr i "bleidleisio". Dwi'n dweud "pleidleisio" ond fy mod mewn gwirionedd yn pleidleisio drwy'r post ac yn rhoi'r amlen honno i'r swyddog i'w dychwelyd i bencadlys y cyfrif yn Aberaeron.

MHapI yn canfasio ward Rheidol, AberystwythUn wrth un fe ddaethon nhw i Neuadd Cadlanciau'r Môr i fwrw'u pleidlais. Ar un adeg roedd mwy o gynrychiolwyr y blaid Ryddfrydol yno i gadw cyfrif o'r pledileiswyr nag oedd o bleidleiswyr eu hunain!

Pan ddaeth hi'n naw o'r gloch daeth ORh i gymryd trosodd. Bant â fi wedyn i gael brecwast yn Upper Limit Café gyda DJP, a chwedyn nôl am swyddfa Plaid Cymru yn Heol y Wig i weld beth oedd yn digwydd. Fan'ny roedd pobol yn ffonio cefnogwyr i'w hatgoffa bod etholiad (!) ac i fynd mas i bleidleisio. Byddai'n dda petai'r amser pan roedd pawb yn mynd mas i bleidleisio yn dod 'nôl.

GBCwrdd â chyfeillion y Caban i gael paned cyn mynd 'nôl i'r fflat i ddechrau ar y gwaith o gadw llygaid ar bwy oedd wedi bod yn pleidleisio yn Ward Rheidol yn ystod y dydd, ac i wneud yn siŵr fod ein cefnogwyr ni yn dod mas. Bob rhyw hanner daw rhestr newydd o rifau i roi ar ein rhestrau ni ac mae mwy a mwy o'n cefnogwyr ni wedi bod mas yn pleidleisio. Wrth i'r amser fynd yn ei flaen mae'r nifer sydd heb bleidleisio yn mynd yn llai ac yn llai.

Rhaid diolch i bawb sydd wedi helpu yn Ward Rheidol a Ward Ganol Aberystwyth: DML wrth gwrs, MHapI, SE, HL, JT, Elwyn, MWR, RPL, AW, ORh, BJ, EHGJ, RhE, DMLl, a phawb arall hefyd gan gynnwys GB.