Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-07

Wynebu bore arall

Roedd ddoe yn wael, mae heddiw yn waeth! Mae fel petai noson o gwsg wedi rhoi'r nerth ifi alaru mwy, i fod yn fwy dig, i fod yn fwy isel fy ysbryd, ac i sylweddoli'n fwy cymaint o golled fydd hi nad yw Simon Thomas yn y senedd.

Wrth gwrs rhaid sylweddoli taw etholiad sydd wedi mynd i'n herbyn, fel mae etholiadau yn mynd yn erbyn rhywun bob amser. Nid yw llwyddo i argyhoeddi mwyafrif yn golygu fod y mwyafrif yn iawn a bod ein hachos yn llai dilys, dim ond fod barn y mwyafrif yn mynd i gario'r dydd am gyfnod o leiaf. Nid ydym yn byw mewn sustem annemocrataidd ac felly fe dda cyfle i newid barn pobol unwaith eto.