Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-11

Gwella

O ddydd i ddydd mae pethau'n gwella. I ddweud y gwir mae'n rhaid imi anghofio am fy hunan-dosturi a mynd ymlaen â bywyd. Mae'r hyn sydd wedi digwydd wedi digwydd. Dwi'n edrych ymlaen i fy ngwyliau yng Ngwlad Belg, dwi hefyd yn edrych ymlaen i weithio i newid y sefyllfa. Dwi'n dal i fod yn ddigon abl i newid pethau a rhaid ymgyryd â'r gwaith yn hytrach na bodloni ar gwyno.