Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-29

Wedi'r gwaith nos Wener 2005-05-27

HCJ a DJ yn Yr Hen Orsaf, AberystwythWedi'r gwaith nos Wener fe es i i'r Hen Orsaf gyda DJP ac RO. Roeddwn i yno ar drefniant Dr MWR, y tro cyntaf i mi ei gweld ers yr etholiad ac ers iddi hi ac Elwyn fod ar eu gwyliau ym Mwdapest. Cyrhaeddodd DJP a finnau'r Hen Orsaf o flaen pawb arall a dyma brynu peint o Jupiler, cwrw mwayf poblogaidd Gwlad Belg, sy'n digwydd bod ar werth yma fel rhan o ŵyl gwrw. Pwy ddaeth mewn wedyn oedd HCJ a DJ? Doedden nhw ddim wedi bod yn y lle o'r blaen , neu heb fod ers amser. Dywedodd DJ ei bod yn darllen y blog ac felly roedd hi'n gwybod fy hanes i a hanes llawer o bobol eraill hefyd. Mae'n dda gwybod fod rhwyrai'n cael pleser o wybod beth sy'n digwydd yn fy mywyd bach diflas i!

Cyn bo hir roedd RO wedi cyrraedd, ac yna Dr MWR ac Elwyn. Cymrodd Dr MWR a finnau ein tro i ddweud hanes y gwyliau gyda chyfraniadau oddi wrth RO a DJP. Roedd RO yn medru cyfranu'n ddeublyg gan ei fod wedi bod yn Fflandrys a Bwdapest. Cafwyd trafodaeth ar y camera ac fe holodd Dr MWR a oedd hi'n bosib tynnu lluniau du a gwyn a sepia gyda fy nghamera i - felly dyma hwy.

Dyma lun o Dr MWR mewn sepia. Mae hi newydd bod yn trin ei gwallt. Felly mae'n bosib tynnu lluniau sepia, ond nid rhai da iawn heb fwy o ymarfer.
Dr MWR mewn sepia

Dyma lun o DJP, ond y teitl yw "Y bardd". Llun du a gwyn a fydd yn berffaith ar gyfer siaced lwch ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth dwi'n meddwl oni bai fod gan MD rywbeth gwell!
Y bardd

Dwi'n eithaf balch o'r llun o HCJ a DJ mae wedi dal y ddau yn naturiol iawn, er fod pob ffotgraff wedi'i greu ac nid yw'n naturiol o gwbl, wrth gwrs.

Fe fuon ni yn yr Hen Orsaf drwy'r nos hyd amser cau. Ar ôl trafod y gwyliau a chan osgoi gwleidyddiaeth, fe fuon ni'n "trafod" crefydd (fel arfer!), heb fynd yn rhyw bell iawn. Fe fuon ni hefyd yn trafod heddychiaeth. Wedyn aethpwyd ati i restru hoff ffilmiau - llawer gormod o ffilmiau Holywoodaidd i mi, a dim digon o ffilmiau Ewropeaidd. Mae rhestrau o hoff ffilmiau yn ddiddorol iawn.

Mae'r BFI wedi cyhoeddi rhestr o'r 100 ffilm orau o Brydain. Dyma restr o 10 ffilm orau'r BFI o ffilmiau o Brydain:
(1) The third man;
(2) Brief encounter;
(3) Lawrence of Arabia;
(4) The 39 steps;
(5) Great expectations;
(6) Kind hearts and coronets;
(7) Kes;
(8) Don't look now;
(9) The red shoes;
(10) Trainspotting.

Mae'r AFI wedi gwneud rhestr debyg o 100 o ffilmiau Amercanaidd gorau. Dyma'r 10 uchaf:
(1) Citizen Kane;
(2) Casablanca;
(3) The Godfather;
(4) Gone with the wind;
(5) Lawrence of Arabia;
(6) Wizard of Oz;
(7) The graduate;
(8) On the waterfront;
(9) Schindler's list;
(10) Siginin' in the rain.

Mae'n rhaid fod llunio rhestrau fel hyn yn rhwbeth Eingl-Sacsoniadd oherwydd dwi'n methu dod o hyd i restr debyg o ffilmiau Ewropeaidd - maen nhw wrthi'n mwynhau bywyd siŵr o fod!

Rhagor o luniau o'r noson yn yr Hen Orsaf.