Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-29

Dydd Sadwrn 2005-05-28

Plât a gwydr, Bwyty Gannets, AberystwythRoedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod tawel. Gwneud y pethau arferol - paratoi cyhoeddiadau'r Sul ar gyfer Eglwys S. Mair, paratoi'r darlleniadau ar gyfer y bore, ac ar gyfer arwain y gwasanaeth yn y nos. Ond roedd un peth allan o'r cyffredin, paratoi'r blodau. Roeddwn i bwriadu ffonio JJ yn y Black Orchid ddoe, ond yn y diwedd wnes i ddim llwyddo, ac roeddwn i'n credu ei bod yn rhy hwyr i wneud dim fore Sadwrn. Felly, roeddwn i wedi penderfynu mynd i siop flodau a phrynu tusw a'i osod mewn fâs ger y Bwrdd Sanctaidd. Dwi'n gwybod na fyddai'n llawer o steil, ond dyna'r gorau allwn i ei wneud. Fel mae'n digwydd wrth fynd mas i'r dre i brynu blodau yn gynnar dyma gwrdd a GC ac fe wnaeth hi awgrymu nad oedd hi'n rhy hwyr i ffonio bryd hynny, a dyna a wnes i a doedd hi ddim yn rhy hwyr! Fydda i ddim yn dwyn gwarth ar y enw Dafis gyda fy nhrefniant blodau fy hun unwaith eto!

Cranc, Bwyty Gannets, AberystwythRoedd coffi'r Caban yn fwy melys oherwydd fy mod wedi datrys y broblem honno. Cwrdd fan'ny gyda Dr WD, Elwyn, RO a DML. Cyn pen chwinciaid roedd hi'n amser cinio, a bant â finnau, DML ac RO i Fwyty Gannets. Yno fe gefais i bryd o granc hyfryd. Wedyn bant â fi i'r dref - llun gopïo'r cyhoeddiadau yn Paperway, fel arfer – a pharhau o gwmpas y dref. Galw fan hyn a fan acw, ond yn llwyddo i beidio â gwario dim. Ar y ffordd yn ôl i'r tŷ dyma basio y Caban unwaith eto, rhag ofn, a chael fod RAJ yn eistedd yno am y tro olaf cyn ymadael am Beriw. Rhaid oedd galw i ddymuno'n dda iddo, a phwy ddaeth heibio wedyn ond RO unwaith eto a chyfle am sgwrs fach fer cyn mynd heibio i siop lyfrau Inc i chwilio am nofel ddiweddaraf Manon Rhys, Rara avis a chael hefyd Gwaedd y bechgyn ar y sêl. Ar y ffordd yn ôl i'r fflat dyma gwrdd â DML oedd wedi bod â dillad i'w sychu yn y sychfan.

Yna gyda'r nos cael salad a threulio fy amser yn ysgrifennu fy mlog ac yn paratoi ar gyfer y Sul.