 Does dim rhyw lawer i'w adrodd am y daith 'nôl o Lundain i Aberystwyth, dim ond i ddweud fy mod wedi difyrru fy hun o'r Drenewydd i Aberystwyth drwy dynnu llun ar ôl llun mas o'r ffenest. Fe dynnais rhyw bedwar ugain o luniau i gyd ac maen nhw ar gael i bawb eu gweld. Does dim byd lawer y gallaf ei ychwanegu at hanes y daith ond y lluniau hyn.
Does dim rhyw lawer i'w adrodd am y daith 'nôl o Lundain i Aberystwyth, dim ond i ddweud fy mod wedi difyrru fy hun o'r Drenewydd i Aberystwyth drwy dynnu llun ar ôl llun mas o'r ffenest. Fe dynnais rhyw bedwar ugain o luniau i gyd ac maen nhw ar gael i bawb eu gweld. Does dim byd lawer y gallaf ei ychwanegu at hanes y daith ond y lluniau hyn.Pan ddois adref y noson honno roedd 'na ganfasio i'w wneud yn ward ganol Aberystwyth. Dwi'n ofni imi esgusosi fy hun drwy ddweud fy mod wedi blino. Bydd yn rhaid gwneud rhywbeth nos Wener felly.
 
