Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-02

Rhagor o wleidyddiaeth, rhagor o waith a rhagor o fwynhad

Simon Thomas yn annerch, AberystwythDoedd pethau ddim yn hir cyn dod nôl i'r hyn sy'n normal dros gyfnod yr etholiad. Wedi gwaith nos Wener allan â ni yn y ward ganol yn Aberystwyth yn canfasio. Mae canfasio'r ward ganol yn dipyn o her gan ei bod hi'n amhosib dod o hyd i nifer o'r cyfeiriadau heb sôn am y bobol sydd i fod yn bod yn byw yno.

Roeddwn yn ôl ar y stryd fore Sadwrn wedyn yng nghanol y glaw yn cadw stondin y tu fas i Lunn Poly gyda Elwyn ac eraill. Roedd hi'n bwrw glaw yn drwm ac mae'n rhaid ein bod yn edrych yn druenus, ond roedd pobol yn ymateb yn dda i'r neges. Yr uchafbwynt oedd araith Simon gan fynd â'r neges reit at y gwrthwynebwyr oedd yn sefyll yn bellach i lawr y stryd.

Te yn Caesars, AberystwythRoedd y stodin ar y stryd tan rhyw 1.00pm, ond wedyn roedd cyfle i ymlacio yng nghwmni ffrindiau. Cinio i ddechrau yn Bar Essential - RhE, Dr MWR, RO, DML, Elwyn a finnau. Wedyn chwilio am rywle i gael pwdin a choffi a chael hyd i le yn y diwedd yn Caesars. Cyn dechrau go iawn dyma DJP yn ymuno â ni. Fe ges i sgonen gyda jam a hufen - roedd hi'n flasus iawn.

Roedd rhai yn bwriadu mynd mas y noson hynny, ond roedd yn well gen i aros adref a mynd i'r gwely'n gynnar. Bydd angen nerth yr wythnos nesaf i weithio ac i wynebu beth bynnag arall fydd yn digwydd.