
Erbyn hyn roeddwn i wedi blino'n lân ar ôl cerdded o gwmpas cymaint ac felly dyma chwilio am rywle i gael disglaid o de neu goffi. Dwi'n ofni taw mewn siop goffi gadwyn y cefais fy hun, sef Costa yn New Oxford Street. Cefais groeso cynnes gan y rheolwr a oedd yn siarad Saesneg perffaith, ond roedd ei enw yn awgrymu ei fod yn dod o dramor, ond wyddwn i ddim o ble. O'r diwedd fe wnes i fagu digon o hyder i ofyn iddo, ac fe gefais syndod i wybod ei fod yn dod o Brasil! Yn ychwanegol at hynny roedd ganddo brofiad uniongyrchol o goffi.

Wedi ceredded ychydig dyma ddod o hyd i'r lle bwyta. Dyma gael frit met ynghyd â chregyn gleision. Fe wnes i fwynhau, ond mae bwyta ar eich pen eich hun mewn lle dieithr yn medru bod yn ddiflas. Wedi swper 'nôl â mi i'r gwesty er mwyn cael noson dda o gwsg cyn dechrau 'nôl i Aberystwyth yn y bore.