Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-11

Rhyddfrydwyr yn yr haul!

Rhyddfrydwyr yn yr haulPan ysgrifennais y postiad diwethaf roeddwn wedi anghofio'n llwyr fod y Cambrian news yn ymddangos heddiw am y tro cyntaf ers yr etholiad ac felly'n gyfle i ail-fyw yr hyn a ddigwyddodd ddydd yr etholiad! Wrth gwrs, nid dyna fydd y peth olaf i'n hatgoffa o beth sydd wedi digwydd. Ond mae'n bwysig cofio nad digwyddiad unwaith ac am byth yw etholiad a bod cyfle arall yn dod. Nid y bobol sy'n gwbwl ymrwymiedig sy'n gwneud gwahaniaeth mewn etholiad ond y rhai sydd mor chwit-chwat a newid eu meddwl, ac os ydyn nhw wedi newid eu meddwl unwaith fe wnewn ni newid eu meddwl unwaith eto!