Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-05-11

Dogfael yn yr haul!

Mae'r amser wedi cyrraedd pan byddaf yn cael y cyfle i sgwrsio gyda brodorion Fflandrys yn huawdl ac yn rhugl am yr etholiad mewn Iseldireg "Hoe findt u Tony Blair?" (=Beth yw'ch barn chi am Tony Blair?) "Hoe findt u de verkiezingen van VK?" (=Beth yw'ch barn chi am yr etholiad yn y Deyrnas Gyfunol?).

Byddwn yn aros yng ngwesty Elckerlyck Inn (ystyr yr enw yw "pawb yr un fath") ym mhentref Rollegem, sydd yn rhan o ddinas Kortrijk. Mae'r pentref reit ar y ffin ieithyddol yng Ngwlad Belg ac mae'n debyg y bydd hi'n bosib mynd am dro gyda'r nos lawr at y ffin ieithyddol i weld beth sy'n digwydd ar yr "ochr draw". Mae un o'r strydoedd yn Rollegem yn dechrau gyda'r enw Tombroekstraat ond wrth groesi'r ffin ieithyddol yn troi yn Rue de Tombrouck. Gyda llaw nid yw'r ffin â Ffrainc nepell o'r fan chwaith!

Mae'n debyg y byddwn ni'n ymweld â Gent, Brussel a Ieper, a chwedyn dwi ddim yn gwybod ble. Mae rhai o'r cyfeillion sy'n dod gyda mi yn adnabod gwas sifil pwysig ym Mrwsel ac mae'n debyg y bydd cyfle i gyfarfod ag yntau. Mae dydd Llun yn ŵyl yng ngwlad Belg - Pentecost neu'r Sulgwyn neu Pinksteren - felly mae'n debyg taw bryd hynny yr awn ni i Frwsel.

Mae lluniau newydd wedi dod i law o'r gwesty sy'n gwneud imi ddyheu'n fwy am gychwyn ar y gwyliau. Gyda llaw doedd dim rhaid talu'n fwy am ystafell oedd â golygfa dros y ffin ieithyddol.

Dyma'r gwesty.


Y bar.


Y lle bwyta.


Y llety.


Y parlwr yn y llety.