Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-19

Wedi cael llond bola o Lafur

Felly mae Peter Law AC i sefyll yn yr etholiad ym Mlaenau Gwent wedi'r cwbwl. Mae'n amlwg fod ei wrthwynebiad i ddull y blaid Lafur o wneud pethau yn un rhyfeddol o gryf. Dim ond ychydig ddiwrnodau ar ôl triniaeth am diwmor ar ei ymennydd. Ac wrth mae hyn yn golygu nad oes gan Lafur bellach fwyafrif yn y Cynulliad Cenedlaethol, ond a fydd Plaid Cymru a'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn barod i clymbleidio er mwyn ennill grymu. Mae cof am y gorffennol yn medru bod yn rhwystr mawr i wneud y fath hyn o beth. Mae'r canlyniad yn bell gyrhaeddol. Rhaid disgwyl a gweld beth fydd yn digwydd. Nid yw gwleidyddiaeth wastad yn ddiflas.