
Gwasanaeth i'r teulu cyfan oedd am 10.00am yn Eglwys S. Mair gyda'r pregethwr yn canolbwyntio ar hanes Iesu a Sacheus. Wedi cinio ym mwyty Tŵr y Cloc 'nôl i'r fflat i orffen gwaith ar y bregeth ar gyfer y gwasanaeth nos. Roeddwn i wedi dewis pregethu ar yr ail ddarlleniad gosodedig ar gyfer y dydd, sef 1 Corinthiaid 15.50-58 sef rhan o'r bennod fawr ar yr atgyfodiad. Fy nhestun i mewn gwirionedd oedd yr adnod olaf un: "Diolch i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni! Felly safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch â gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi'n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i’r Arglwydd ddim yn wastraff amser." (ad.58).
Adref wedyn wedi'r hwyrol weddi i wneud y peth hyn a'r peth arall. Fe wnes i edrych ar un raglen deledu, sef Dechrau canu, dechrau canmol, gyda'r ddau westai yn sôn am natur a'u cred. Fel mae'n digwydd roeddwn yn adnabod y ddau - DM a oedd yn arfer bod yn gydweithwir, a EG oedd yn y coleg yr un pryd â mi. Rhaglen digon difyr. Wnes i ddim edrych ar ddim byd arall ond gwneud mwy o waith ysgrifennu. Mae'n rhaid bod yn ddisgybledig iawn gyda'r teledu gan ei fod mor aml yn barod i'ch tynnu i mewn i'w rwyd a'ch cadw'n gaeth am y nos. Dwi'n siŵr fod 'na wirionedd yn y gosodiad ei fod yn bwyta'r meddwl, yn lladd y dychymyg ac yn pydru'r ymennydd. Yn y Taleithiau Unedig mae 'na fudiad o'r enw TV Turnoff Network sy'n annog plant ac oedolion i ddiffodd y teledu ac i wneud rhywbeth sy'n fwy adeiladol yn ei le.