Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-19

Canfasio

Peint wedi'r canfasio, Ship & Castle, AberystwythMae cerdded o gwmpas y strydoedd yn ffordd rhyfedd o fod yn weithredol mewn gwleidyddiaeth. Ond dyna beth mae'r rhan fwyaf o apparatchiks gwleidyddol pob plaid yn ei wneud ar hyn - cerdded y strydoedd, sefyll o gwmpas yn y glaw, disgwyl am hwn neu'r llall i agor drws. Yr hyn sy'n fy mhoeni yw fod pobol yn cymryd y peth mor ganiatol fel nad yw neb yn sylweddoli cymaint y mae democratiaeth weithredol yn dibynnu ar rai sy'n fodlon gwirfoddoli, sy'n fodlon rhoi o'u hamser i wneud pethau sydd ddim yn arbennig o ddeniadol na diddorol. (Yn y llun ar y dde gwelir criw yn ymlacio yn nhafarn y Ship & Castle wedi canfasio yn ward Rheidol, Aberystwyth.)

Does dim sydd yn gwneud imi deimlo yn fwy trist na'r rhai sy'n eich cyfarch wrth y drws drwy ddweud nad ydyn nhw yn eich gweld chi ond ar adeg etholiadau gan rhyw led awgrymu y buasent yn hoffi eich gweld yn galw yn fwy aml. Ond wrth sgwrsio rydych chi'n gwybod yn iawn nad yw hynny'n wir, a 'ta beth mae 'na etholiad pob blwyddyn bellach ac felly rydych yn eu gweld nhw yn reit reolaidd. Ac maen nhw'n cael ymweliad eraill hefyd. A phrin ar y naw yw trafodaeth wleidyddol go iawn; mae'n ymddangos fel petai pawb yn ddigon hapus gyda phopeth, neu'n rhy swil i godi sgwrs gyda dieithryn.